Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR H A UL "YNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIB DUW YN UCHAF." Rhif. 155. TACHWEDD, 1869. Cyf. 13. PREGETH, A draddodwyd dydd Sul, Awst 8, 1869, gan Sosipater. "Yr Hwn a'i rhoddes ei Hun drosom, i'n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i'n puro ni iddo ei Hun yn bobl briodol, awyâdus i weithredoedd da."—Titüs ii. 14. Pan fo Sant Paul yn crybwyll enw yr Ar- glwydd Iesu, ei arferiad cyffredin yw gadael heibio am fynyd y pwnc a fo ganddo incwn llaw, a myned i son am ryw haedd- iant, neu rinwedd, neu ogoniant sydd yn perthyn iddo Ef Mae enw yr Iesu ar unwaith yn tanio ei feddylfryd, ac y mae am fynyd megys yn colli ei olwg ar bob peth arall, o herwydd y dysgleirdeb sydd yn yr enw gogoneddus hwnw. Yn yr adnodau blaenorol, mae efe yn dywtídyd fod gras Duw yn ein dysgu i wadu pob annuwioldeb a chwantau bydol, ac i fyw yn sobr ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awr hon. Yna y mae yn dywedyd, fel rheswm dros hyn, ein bod yn dysgwyl am y gobaith gwyn- fydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Hiachawdwr Iesu Grist. Ac yna, wedi cael achlysur fel hyn i gry- bwyll ein Hiachawdwr Iesu Grist, mae ei feddwl a'i serch yn tanio tuag ato; ac nis gall ymattal rhag ychwanegu yng ngeiriau y testyn, y rhai sydd yn dyfod yn nesaf, a dywedyd, "Yr Hwn a'i rhoddes ei Hun drosom, i'n prynu ni oddi wrth bob anwir- edd, ac i'n puro ni iddo ei Hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da." Wedi dwyn o honom y testyn i mewn fel hyn yn ei gyssylltiad â'r ymadroddion blaenorol, ni a wnawn yn awr ychydig o sylwadau arno er adeiladaeth ein ffydd a'n cariad; a bydded i ras a bendith y nef goroniein hymgynnulliad â llesâd ysbrydol o ddyddanwch ac o adgyfnerthiad. Ond rhaid i mì ddywedyd ỳm mlaenaf nad oes dim lle i ni ddysgwyl llesâd oddi wrth ein 41—XIII. hymdriniaeth â'r geiriau, os nad ydym yn cyfranogi i raddau yn nheimladau gwresog yr apostol tuag at enw yr Iesu; ac os nad ydyw yr enw bendigaid Hwn ag sydd "yn enaint tywalltedig," yn twymno ein calon- au megys â gwefrdan gras, fel enw ein cyfaill anwylaf, fel enw ein pertbynas agosaf, ac fel yr enw sydd yn argraffedig yn ddyfnaf ar ein heneidiau. Mae dau beth i'w gweled yn y geiriau. Yn gyntaf, yr hyn a wnaeth ein Hiach- awdwr Iesu Grist ar ein rhan. Ac yn ail, y dyben mawr ag oedd gando mewn golwg wrth wneuthur hyny. Yn gyntaf, yr hyn a wnaeth ein Hiach- awdwr Iesu Grist ar ein rhan: "Efe a'i rb.od.des ei Hun drosom." Yr oeddym ni, trwy godwm Eden, wedi myned i afael dau beth; i afael y ddeddf ac i afael pechod. lihoes yr Iesu ei hun drosom i'n gwaredu cafael y ddeddf, ac i'n hachub o afael Satan a phechod. Yr oedd pechod wedi ein dwyn i afael y ddeddf; ac nid oedd modd i'r ddeddf beidio â'n condemnio i'r farwolaeth ddyledus i ni fel cyfiawn gospedigaeth. Cyflog pechod y w marwol- aeth; ac nid oedd gan y ddeddf ddim i'w wneuthur ond ein trosglwyddo ni i ddwy- law y dienyddwr. Mae Crist ei hun, yn y bregeth ar y mynydd, yn egluro i ni drefn y mater ofnadwy hwn: y gwrthwynebwr yn ein rhoddi yn llaw'r barnwr, y barnwr yn ein rhoddi at y swyddog, yna ein taflu yng ngharchar nas deuwn allan o hono hyd nes y talom y ffyrling eithaf. Chwi a welwch yma mor rheolaidd yw gweithred-