Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

X JtL Jri A U L. lil §ì\ìm énnfyùìw. "YNG NGWYNEB HATJL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIE DU¥ YN UCHAF." Ehifyn 16. EBEILL, 1886. Cyf. II. CYN EI HADGYWEIRIO. EGLWYS CONWY Y crybwylliadau cyntaf a gawn o'r ardal hon sydd yng nglŷn â'r saíle filwrol Eufeinig, Conovium, a elwir yn awr Caer Ehun. Yr oedd hon mewn bod yn y ganrií' gyntaf o Gristionogaeth. Saif yn uwch i fyny na thref bresennol Conwy; ac y mae yn debyg mai Lladineiddiad o Conwy ydoedd Conovium. Ni wyddys pa biwd yr adeiladwyd Eglwys gyntaf yma; ond gan y preswyliai Maelgwyn Gwynedd yn y lle yn nechreu y chweched ganrif, ac iddo ef fod yn noddwr hael i Gristionogaeth, y mae yn dra thebyg fod yno Eglwys ar y pryd. Ond yn 1185 adeiladodd Llewelyn ab Iorwerth fynachlog ysplen- ydd yn isel i waered, wrth eneu yr afon, a galwyd hon Mynaehlog Aberconwy. Ehoddwyd hi dan 13—n. NEU ABEECONWY. ' ofal Brawdoliaeth elusengar y Bernardiaid, neu y Brodyr Gwynion. Gwaddolwyd hwy yn helaeth â thiroedd ym Mon, Arfon, a Dinbych. Ehoddes Llewelyn iddynt diroedd eang yng Nghantref Uwch Aled—tiroedd a adwaenir hyd eto wrth yr enw Tir Abbot Uchaf a Thir Abbot Isaf. Hon oedd prif fynachlog Gwynedd, ac ynddi cedwid copi o Gyf- reithiau Hywel Dda, a chofnodion helaeth o weith- redoedd y tywysogion, ac enwau a breiniau yr ar- daloedd, a phrif deuluoedd Gwynedd. Daeth hefyd yn fath o gladdfa dywysogol — yn Westminster Gwynedd. Yma y claddwyd Gruffydd ab Cynan ab Owen Gwynedd, yn 1200; Llewelyn ab Maelgwyn ab Owen Gwynedd, yn 1230; Daíÿdd ab Llewelyn