Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y R A U L. iil §vfim (teftjrìtìtin. :yng ngwyneb haul a llygad goleuni." "a gaib duv yn uchaf." Rhifyn 22. HYDREF, 1886. Cye. II. ADEILADWAITH EGLWYSIG MEWN TREF NEWYDD. Mewn amryw rifynau o'r Haul eawsom gyfle i osod ar lawr enghreifftiau o weithrediad yr egwyddor wirfoddol yn Eglwys Loegr, fel yr arddangosid hwynt trwy gyfrwng rhai o'n gwahanol gymdeithasau. Ac yn y rhifyn hwn yr ydym yn eael eyfle i roi esampl o'r un egwyddor, fel yr arddaugosir hi yng nglŷn âg adeiladwaith Eglwysig mewn plwyf ar- benig yng Nghymru. Maes ein hymehwiliad sydd gyn- nwysedig o blwyf a thref newydd, wedi neidio i fodol- olaeth o fewn oes gwr. Mae yn beth hawdd ysgrifenu rhywbeth pleserus pan yr ymdrinir â lien blwyf; o blegid nid oes odid un yng Nghymru a'r na cheir yn ei gyssegrfan ryw grair gwerth- fawr; yn ei lanerch lonydd ryw enwog marw mewn bedd neu englyn by w ar feddfaen ; neu yn ei bentref gwledig ryw encilion ag y gellid eu caboli nes ymddangos o hon- ynt megys gemau i'r darllengar a'r ymchwilgar. Ond mewn lle newydd nid yw'r chwedl henaf ond un megys am ddoe, tra y mae golygf ëydd blynyddau diweddar yn rhy agos o lawer i feddu ar y swyn y dywedir fod pellder oddi wrthynt yn ei ychwanegu at y cyfryw bethau. Felly, yn y ffeithiau sydd yn dilyn, na ddysgwylied y darllenydd am ddyddordeb 37—n. EGLWYS ST. 10AN, RHYL ychwaneg nag a roddir arnynt gan ryw gymmaint o wasanaethgarwch a all fod yn gyssylltiedig â'r ysgrif. Hanner can mlynedd yn ol nid oedd trefddegwm Rhyl, ym mhlwyf Rhuddlan, ar eneu lletaf dyffryn ffrwyth- lonaf Gogledd Cym.ru—Dy- ffryn Olwyd — ond mangre nifer fechan o breswylwyr— rhai yn derbyn eu cynnal- iaeth o gynnyrch y môr, ereill o gynnyrch y tir, trwy lafurio arno yn y dyffryn, a chyda chynnorthwy yr hyn a ddygid i rai o honynt gan ymwelwyr "oddi fyny" yn ystod mis- oedd yr haf, y rhai a ddeuent i lawr nid yn unig i ymdrochi yn y môr, ond hefyd i yfed o'i ddyfroedd — arferiad ag sydd bellach wedi diflanu. Ond yr ydoedd yno un tŷ o bwysigrwydd a hynafiaeth, yr hwn a erys hyd heddyw, sef Ty'n y B-hyl, preswylfod Miss Angharad Llwyd — awdures nid anenwog a Chymräes ddiledryw — am flynyddau lawer. Er hyny, gwedi y flwyddyn 1828, yr oedd poblog- aeth y lle ar gynnydd parhäus, yn gymmaint fel ag y gwelwyd yn ddymunol codi Eglwys yno yn 1835, ac yn gyssylltedig â'r hon y ffurfìwyd plwyf yn 1844, yn cynnwys 600 erw. Llun croes oedd ei ffurf, i'r Drindod Fendigaid y cyflwynwyd hi, a lOOOp. oedd