Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

126 YR HAÜL. oddi ar law yr esgob. Mae y Parch. J. Ll. Jones, curad Abergwaun, wedi derbyn bywoliaeth Eglwys Cummin oddi ar law yr Arglwydd Ganghellydd. Y mae y Pareh. J. P. Herbert wedi derbyn fìceriaeth Llandyfaelog, ar farwolaeth y Parch. Mr. Owen ; yr oedd Mr Herbert yn gurad mewn gofal o'r plwyf ar y pryd. Mae y Parch. J. Tonibs, rheithor Burton, wedi cael ei benodi yn brebendari St. Nieholas, Penyffos, yn yr Eglwys Gadeiriol. Urddiad.—Cynnaliwyd yr ordeiniad cyffredinol yn Eglwys y Plwyf, Abergwili, dydd Sul, Mawrth 6, pryd yr urddwyd y boneddigion canlynol: Diacon- iaid—John Jenhins, B.A., Coleg Dewi Sant, i St. John's, Juxta Swansea; William Lloyd, B.A., Coleg Dewi Sant, i St. Michael's and All Angels, Dafen ; Alfred Augustus Mathews, B.A., Coleg Dewi Sant, i Holy Trinity, Swansea. Mr. Jenldns ddarllenodd yr Efengyl. Offeiriaid—Parchedigion James David Griffiths, B.A., Coleg Dewi Sant, curad Bugeildy; David Davies, L.D., Coleg Dewi Sant, curad Ystrad- gynlais; John Hugh Watldns Jones, B.A., Wor- cester College, Oxford, curad St. Mary's, Brynmawr ; Evan Morgan Roderich, B.A., Jesus College, curad St. Peter's, Caerfyrddin ; John Thomas, B.A., Coleg Dewi Sant, curad Llanilar gyda Phosdie. Conffrmasiwn.—Bu yr esgob yn conffirmio yn y lleoedd dilynol yn ystod y mis : Perryside, 18 ; Eg- lwys St. Thomas, Hwlffordd, 115; Eglwys Llan- dingad, Llanymddyfri, 137. Dygid ymgeiswyr o wahanol blwyfydd i'r lleoedd uchod. Llanstephan.—Mae Mrs. W. H. Parnell, gynt o'r lle hwn, ond yn awr o Hastings, wedi rhoddi carpet ardderchog ar lawr y ganghell tu fewn i ganllawiau bwrdd y Cymmun. Deoniaeth Uchaf Caerfyrddin. —Ar yr 8fed o Fawrth cynnaliwyd cyfarfod perthynol i'r ddeoniaeth uchod, yn Eglwys St. Pedr, Caerfyrddin, o dan lywyddiaeth y Parch. A. G. Edwards, D.G., pryd yr ymdriniwyd â'r materion canlynol: 1. Darllenwyd Titus iii. yn y Groeg. 2. " Nodiadau Plwyfol." Darllenwyd papyr ar y testyn uchod gan y Parch. C. G. Brown, Training Colleg, Caerfyrddin. 3. "Y dymunoldeb neu yr annymunoldeb o gefnogi newyddiaduron a misolion Eglwysig Cymreig." Gan y Parchedig D. Sawelian Davies, ficer Llanybri. 4. " Dyddiau Tawel." Penderfynwyd i gynnal cyfarfodydd o'r natur yma yng Nghaerfyrddin, a chael oíîeiriaid cymhwys i draddodi anerchiadau pwrpasol; ond ni phenodwyd yr amser. 5. " Gohebydd Eglwysig Cymreig." Penodwyd fìcer Llanybri (Sawelian) yn ohebydd i'r Haul, Y Llan, &c, dros y ddeoniaeth. Cynnelir y cyfarfod nesaf ym mis Mai. IN MEMORIAM AM MR. JOIIN TII0MAS, PORTHMADOG. Ym marwolaeth Mr. Jolm Tbomas collodd yr Eglwys yn Eifionydd ac Arfon un o'i llafurwyr mwyaf gwasanaethgar a'i haddurniadau gloewaf. Cawsom y mwynhâd o gyfarfod Mr. Thomas gyntaf yn y flwyddyn 1851, fel cydathraw Ysgol Sul yn nhref Caernarfon. Yr oedd efe ar y pryd yng ngwasanaeth y diweddar Owen Jones, Ysw., y town steward, fel ysgrifenydd. Cymmerai ran flaenllaw yn holl waith yr Ysgol Sul a chaniadaeth yr Eglwys ac achos addysg elfenol, a bydd yn drwm gan lawer o gyfeillion y cyfnod hwn o'i fywyd glywed am ei farwolaeth. Symmudodd o Gaernarfon i wasanaeth y diweddar Mr. Greaves, fel ysgrifenydd a chyfrif- ydd, ym Mhorthmadog; a dyma lle y treuliodd tua deng mlynedd ar hugain diweddaf o'i oes. Ymafaelodd yno ar unwaith yng ngwaith yr Ysgol Sul, a chydweithiodd yn egn'íol gyda'r llenor adna- byddus, Alltud Eifion, i ddwyn ym mlaen yr achos yn Nhremadog. Cynnorthwyodd amryw o'r curad- iaid a fuont yno yn llafurio, ym mysg y rhai y bu y Parch. D. W. Thomas, rheithor llafurus St. Anne's a phroctor dros esgobaeth Bangor, a'r Parch. Eliezer Williams. Cymmerai Mr. Thomas arno ei hun bron yr holl faich o ofalu am ganiaclaeth yr Eglwys— dysgu y côr, a chwareu ar yr harmonium, a'r organ gwedi cael hon i mewn i'r Eglwys newydd ag y bu yn gynnorthwy mawr i'w hadeiladu. Treuliodd Mr. John Thomas ei holl oes yng ngwasanaeth tawel, dystaw, a dyfal - barhiius ei Arglwydd, yr hwn a'i galwasai yn fore i'w winllan nefol. ' Nodweddiad ei gymmeriad oedd sirioldeb heulog, parodrwydd i weini cymmwynas ar bob cyfleusdra, a'r gallu i droi ei holl lafur yn fwynhâd. Ond nid oedd ei wasanaeth pai'hiius i Eglwys Dduw yn lleihau dim ar ei ddefnyddioldeb fel gwasanaeth- ydd, dinesydd, a phen teulu. Bu yn ysgrifenydd i Fwrdd Ysgol y dref o'i sefydliad hyd ei angeu, a chynnyddodd ymddiried Mr. Greaves a'i feibion ynddo, nes gosod holl fasnach llechi y porthladd dano. Gedy Mr. John Thoinas weddw a thri mab ac un ferch i alaru eu colled ar ol priod hoff a thad gofalus a thyner. Tua chwe mis yn ol ymbriododd y ferch â'r Parch. D. Lloyd Jones, fìcer Ynys Cynhaiarn a Chaplenydd Porthmadog. "y riiyfel wbth-ddegymol." Dyma y penawcl a esyd bar-gyfreithiwr enwog uwch ben llythyr o'i eiddo i'r Freeman, prif newydd- iadur y Bedyddwyr, o'r hwn gyfundeb crefyddol y