Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE HAUL. 285 îuasai ei charge olaf i'w glerigwyr. Modd bynag, ° drugaredd Pen Mawr yr Eglwys, arbedwyd y pen pugail i draddodi un anerehiad ychwaneg i'w gler- igwyr. Criccieth.—Cyssegrwyd Eglwys newydd y plwyf achod ar yr llfed cyn. Pregethwyd ar yr achlysur &an Arglwydd Esgob Bangor, Arglwydd Esgob ^edford, a'r Parch. J. Morgan, M.A., Llandudno. ■Wawdd sant yr Eglwys newydd yw St. Deiniol. Llanttyfni.—Deallwn fod esgob Bangor wedi pen- °di y Parch. Morris Eoberts, St. Martyn, Caerlleon, *r plwyf pwysig uchod, fel olynydd i'r Parch. E. ^avies. Ordeiniwyd Mr. Eoberts yn y fiwyddyn °'6, a bu yn llafurio yn ddyfal yn yr esgobaeth ani naw mlynedd, pan y symmudodd i Gaerlleon o "deutu dwy fìynedd yn ol. Diammheu y rhoddir 1(ido dderbyniad cynhes i'w esgobaeth frodorol. Da genyin weled fod yr esgobion Cymreig yn cymmeryd yiw o'r rliai ydynt yn Uafurio mor ddyfal ym ^hlith y Cymry yn Lloegr. Credwn y dylai y ddau esgob gogleddol o leiaf ystyried Liverpool, Llundain, Chaerlleon fel rhan o'u hesgobaeth. Os na wneir Vn, teimla dýnion ieuainc talentog beth pryder cyn "tyned i lafurio i'r eyfryw leoedd pwysig. LLANELWY. Corwen.—Ar y lOfed o Awst, agorwyd organ new- vdd ragorol yn hen Eglwys St. Julian, o gynlluniad "^ajor Casson, Dinbych, lleygwr Eglwysig aiddgar. ^ae " Organau Casson " bellach yn dyfod yn rhai Poblogaidd, o herwydd lluaws o welliantau sydd yn 61 patent. Adeiledir hwy yn Ninbych. Pregethwyd ar achlysur yr agoriad yng Nghorwen gan ddeon ^anelwy a'r Parch. D. Grimaldi Davies ; y gwasan- aethau yn gorawl, a'r cynnulleidfaoedd yn lluosog. ^ae Canon Eichardson a'i blwyfolion i'w llon-gyfareh ar eu meddiant o'r fath offeryn rhagorol. ■^■bergele.— Mae chwech o glych soniarus newydd gael eu codi yn hen glochdy yr Eglwys, ac ar y Sul v eanwyd hwy gyntaf pregethodd yr esgob yn Gym- ^aeg i gynnulleidfa a lanwai yr Eglwys o ben bwy- £%dd. Fe gofìr fod y fìcer yn flaenorol wedi adgy- ^eirio yr Eglwys, helaethu y persondy, a chodi ^glwys haiarn ym Mhensarn. Er gwaethaf yr anhawsder dwyieithawg," mae'r Ficer Evans a'i gnrad yn cyflawnu gwaith, a llwyddiant yn cydfyned ag ef yn y plwyf. tiardd JSíantglyn.—Da genym weled fod ymdrechion •^udeyrn, ysgolfeistr Nantglyn, i gasglu arian at g°di maen ar fedd yr hen Eobert Davies, wedi eu c°roni â llwyddiant tu hwnt i'r hyn a ganfyddir yn eytfredin yng nglŷn â chynlluniau er coffäu ein meirw Eglwysig. Cyrhaeddodd y tanysgrifladau yn agos i 30p. Bardd Nantglyn, fel y gwyddys, oedd awdwr Arweinydd i'r Anllythyrenog, un o'r llawlyfrau goreu at wasanaeth Ysgolion Sul; ond un nas cyfar- fyddir ag ef yn aml yn cael ei ddefnyddio ynddynt. (Mae gan yr S.P.C.K. ym Mangor argraffiad rhad o'r llyfr.) Efe hefyd oedd awdwr Gramadeg Cym- raeg Eobert Davies, ag oedd mewn cryn alwad am dano am flynyddau. Cyhoeddodd ei weithiau bardd- onol dan yr enw Diliau Barddas, ac efe a gyfansodd- odd y llinell adnabyddus " Beibl i bawb o bobl ybyd." Yr Offeiriaid a'r Msteddfod.—Ennillodd tri o offeir- iaid yr esgobaeth wobrau gwerthfawr yn yr Eistedd- fod Genedlaethol eleni. Y Parch. Elias Owen, Efenechtyd, ac Arholwr Ysgolion, 20p. a bathodyn, am y casgliad goreu o Lên Gwerin sir Gymreig. Y Parch. W. Glanffrwd Thomas, Llanelwy, gyffelyb wobr, am Bryddest ar yr Iaith Gymraeg. Y Parch. J. Phillips, prifathraw Ysgol Eamadegol Llanrwst, bum gini, am draethawd ar Amcanion a Ehagolygon y Colegau Cymreig. YParch. E. L. Bramwell, M.A.—Mae hen a maith gyssylltiad y diweddar offeiriad yma â'r esgobaeth hon, a'i gariad at ein cenedl, yn teilyngu sylw ar adeg ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le ar y 9fed o Awst, yn 77 oed. Yn 1836, gwnaed Mr. Bram- well yn ysgolor o Goleg yr Iesu, ac yn 1839 etholwyd ef yn brifathraw hen Ysgol Eamadegol hyglod Ehuthyn, yr hon swydd a ddaliodd tan 1865. Yna ymsefydlodd yn Wiltshire, lle yr adeiladocld Eglwys. Yr oedd yn fwyaf adnabyddus fel hynafiaethydd profìadol a gwasanaethgar. Yr oedd yn un o gefn- ogwyr cyntaf a ffyddlonaf yr Archosologia Cambrensis, a mynych y canfyddid ffrwyth ei ysgrifell ar ei dudalenau. Ehwng 1854 ac 1875 gwasanaethodd fel ysgrifenydd cyffredinol y Cambrian Archceological Association, ac wedi hyny fel ei thrysorydd. Yr oedd yn gyfaill cywir, dyddan, a deallgar. Nid yn fuan yr anghofìr ef gan lu o gyfeillion. Y Cyfarfodydd JEsgobaethoì. Cynnaliwyd y cyfarfodydd blynyddol yma yn niwedd mis Gorphenaf yn Llanelwy, yr esgob yn y gadair. Yr oedd lluaws o glerigwyr ac amryw leyg- wyr blaenllaw yn wyddfodol. Cymdeithas Gtceddwon ac Amddifaid Clerigwyr.— Adnewyddwyd grants y flwyddyn flaenorol, a gwnaed chwech o'r newydd, y cyfanswm yn cyrhaedd rhwng 500p. a 600p. Cynnygiodd yr Archddiacon Thomas fod i adran yswiriol gael ei sefydlu yng nglŷn â'r gymdeithas. Cariwyd y cynnygiad, a gwasgwyd ar yr offeiriaid y ddyledswydd o yswirio eu bywydau.