Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. 157 Heber yn un o'r darnau mwyaf gwreiddiol a theimladwy yn yr iaith. Efallai nad yw'r galar mor galon-rwygol ag yw yn mhen- illion Gomer ar ol ei fab, na'r teimlad mor danbaid ag yn marwnad Gwilym Hiraethog ar ol Williams; ond o ran gwreiddioldeb cynllun, tlysineb iaith, purdeb syniadaeth, a theimlad Cristionogol, mae'n gyfochrog os nad yn rhagori ar y ddwy farwnad grybwylledig. Mae yna rhyw bruddglwyfni naturiol yn perthyn i r Celt ag sydd yn ei gwneyd hi yn hawdd iddo farwnadu—braidd nad yw mor hawdd iddo wylo ag yw i'r ywen blygu ei phen—a diamheu fod y gwobrau marwnadol gynygir gan bwyllgorau eisteddfodol wedi dyfnhau y duedd nes mae wylo ar gerdd wedi d'od yn un o diriog- aethau mwyaf cyfarwydd a breintiedig y bardd Cymreig. Yr oedd talent ddiamheuol ac awen wir yn meddiant y diweddar Onllwyn Brace, ond yr oedd braidd yn ddigri sylwi mor naturiol y gallai wylo ar ol pawb yn ddiwahaniaeth. Gwobr dda oedd yr unig amod, a gwelid awen Onllwyn yn wylo fel pe ar dori ei chalon. Ond er fod y farwnad wedi myned hytrach yn ddibarch ac ystryd- ebol yn ein plith, eto nid bai y farwnad yw hyny; a thra y cofir am farwnad Dafydd ar ol Saul a Jonathan, In Memoriam Arglwydd Tennyson, " Adonis " Shelley, ac " Esgob Heber " Alun, fe fydd yn anmhosibl i ni, o'i hiawn ystyried, esgeuluso a diystyru y farwnad. Un o brif anhebgorion marwnad yw fod y galar yn alar gwirion- eddol—y cwynfan yn adlewyrchiad teg o deimlad y marwnadydd ; a'r diffyg o hyn yw'r rheswm fod cyn lleied o'r marwnadau eis- teddfodol wedi goroesi achlysur eu cyfansoddiad. Yr ydym yn cyfeirio at hyn am fod marwnad Alun yn un o'r eithriadau—yn farwnad fuddugol ac eto yn farwnad fyw, ferw, ac anfarwol. Fe enillodd aml i hogyn ar y prize poem yn Rhydychain, ond gydag eithrio " Palestine " Heber, maent bron i gyd yn anghofiedig. A gellir dweyd yr un peth am farwnad Alun—er yn fuddugol, eto mae'n amlwg mai nid y gobaith o enill y wobr yn unig nac yn benaf, a'i cymhellodd i'w chyfansoddi. 'Os di-nôdd y gerdcl, bydd y llygaid yn llyn.' Mae y cynllun fabwysiadwyd ganddo yn y gerdd alar ardderchog hon mor wreiddiol ag yw o brydferth. Ar lanau'r Caveri—afon yn ngorllewin India—gwelir Hindoo yn eistedd câ'i galon ar dori gan hiraeth a thristwch:— ' Ei ddagrau yn llif dros ei ruddiau melynddu, A'i fron braidd rhy lawn i'w dafod lefaru, Ymdorai ei alaeth fel hyn dros ei fin.' Ac mor feistrolgar ac effeithiol y gwna y bardd i'r Hindoo druan i adrodd ei 'stori a dadlwytho ei deimladau! ' Fy ngwlad ! 0 ! fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau, Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr ? Y seren a dybiais oedd seren y borau Ar nawn ei disgleirdîb a syrthiodd i lawr.' Ond wedi gadael iddo drydar am enyd, teimla'r bardd fod gâlar