Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. G&tce "Rcwgöò Xlanbcör. 'YN NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhifyn 91. GORPHENAF 15, 1906. Cyf. VIII. GWADDOLIADAÜ ELÜSENOL YR EGLWYS. (Gan y Parch. E. T. Jones, Whitchurch.) (Parhad.) Yn y rhifyn diweddaf dilynwyd, yn bur frysiog, lianes y gwaddol- iadau hyn hyd ganol yr 16eg ganrif; dangoswyd mai syniad ein tadau, pan oedd crefydd yn fwy pur ac yn llai politicaidd, oedd mai dyledswydd grefyddol oedd gweinyddu rhoddion elusenol y ffyddloniaid; eglurwyd y dull y trawsfeddianwyd y ddyledswydd hon gan yr awdurodau gwladol; a galwyd sýlw at y golled andwyol i'r wlad, ac yn neillduol i'r tlawd a'r trallodus, pan ysbeiliwyd yr Eglwys. Tuedd amlwg ein dyddiau ni ydyw cwyno fod gormod o waith ynglyn â buddianau tymhorol yr Eglwys yn cael ei roddi ar ys- gwyddau yr offeiriad, fod " gwasanaethu byrddau " yn cymeryd gormod o'i amser, ac yn sefyll ar ffordd dyledswyddau mwy ysbrydol. Trueni fod y teimlad hwn yn ffynu. Gwir fod ymddiried ei mater- ion cyllidol i ofal lleygwyr yr Ëglwys wedi dwyn iddi les anmhris- iadwy ; er hyny, y mae gweinyddu elusen yn un o ddyledswyddau arbenig yr offeiriad fel cynrychiolydd y ffyddloniaid yn y plwyf. Y mae syniad yr Eglwys i'w weled yn eglur yn y ddau air a ddef- nyddir, er gwaethaf rhaib a rhwysg bydolrwydd, hyd heddyw. (1) Un o enwau gweinidog plwyfol ydyw Person (" Persona "): fel un sydd yn gweini wrth yr allor y mae yn offeiriad; fel gwarcheidwad holl fuddianau yr Eglwys y mae yn berson. Ac nis gall ymwrthod â'i gyfrifoldeb fel person, mwy nag y gall esgeuluso ei ddyledswydd fel offeiriad. (2) Y gair arall ydyw Cardod ("câr-dawd); ac yn 19—viii.