Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR H AUL. Ctjfrts <terfi[rìẁk " YNG NGWYNEB JEAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUW YN UCHAF." RHIF. 298. HYDREF, 1881. Cyf. 25. TRAETHAWD AR SACRAMENT Y BEDYDD. GAN ANEURIN. (Buddugol yng Nghystadleuaeth Ysgolion Sul yr Eglwys, Aberystwyth, Mehefin Ifed, 1881.) ARWEINIAD I MEWN. Mae i'r gair sacrament ddan ystyr. 1. Arwydd gweledig oddi allan o'r gras ysbrydol oddi fewn, yr hwn a roddir i ni, ac a ordeiniwyd gan Grist ei Hunan. 2. Yr ystyr arall sydd yn tarddu o'r gair Lladin sacra- mentum, yr hwn sydd yn arwyddo llw o ffyddlondeb. Byddai'r milwr Rhufeinig pan yn uno â'r fyddin yn gwneuthur llw o ffyddlondeb i ganlyn ei gadfridog ym mhob achos neu ryfel hyd angeu. Yn yr un modd, fel y ceisiaf ddangos, y mae'r Cristion yn ymrwymo yn ei fedydd i ganlyn ei ben Cadben, yr Arglwydd Iesu Grist, o'i fedydd i'w fedcÉ Bedydd sydd yn tarddu o'r gair Groeg, (Sa7rTCü=f7?p=trochi neu olchi yn Gymraeg. Llawer o ddadleu a chroes ddywedyd sydd ac wedi bod yng nghylch y dull o weinyddu y sacrament, yng nghyd â'r oedran, &c, ac y dylid ei weinyddu, fel y ceisiaf ddangos drwy roddi y rhesymau yn erbyn y dull a ddefnyddir gan y Bed- yddwyr, neu eu rhesymau yn erbyn 46—xxv. bedydd babanod. Y Methodistiaid Calfìnaidd hefyd a wahaniaethant oddi wrth yr holl enwadau ereill yn eu daliadau gyda golwg ar weinyddu y sacrament hwn, heb rith o reswm nac Ysgrythyr dros eu cyfeüiornad. Yn awr mi a droaf at yr Iuddewon i ddangos nad oedd Bedydd yn beth dyeithr i'r Iuddew, a hyny a broflr yn eglur drwy eu derbyniad o Fedydd Öant Ioan. BEDYDD YM MHLITH YR IUDDEWON. Nid oedd yr Iuddewon yn arfer bedyddio y rhai oeddynt wir Israel- iaid yn ol y cnawd, hyny yw, y rhai a enid yn Israeliaid, dim ond y rhai a broselytid i'r ffydd Iuddewig; ac o amser boreuaf ei hanesyddiaeth bed- yddient y rhai a dröid i'r grefydd íuddewig. Cyfrifai yr Iuddew y Cenedlddyn yn aflan bob amser, felly yn anghymhwys i fyned i gyfammod â Duw, heb ymolchi a glanhau oddi wrth ei aflendid blaenorol. Dalient fod Bedydd yn tarddu o gyfraitb Moses, ar awdurdod y rhan hòno o'r Ysgrythyr a ddarllenir yn Ecsodus,