Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 121. GOHPHENHAF, 1845. Cyf. X. YR EGLWYS GRISTIONOGOL. AT OLYGWYR YR HAUL. Anfonais y Traethiad canlynol i #chwi; ac os bernwch y gall fod o les i'ch darllenwyr, wele ef at eich gwasanaeth. RlCHARD OwEN* Coleg Dewl Sant, \ Mai 22, 1845. / Mat. 16. 18.—' Ac ar y graig hon yr adeiladaf fy Eglwys/ Arferir y gair Eglwys yn y Testament Newydd mewn amryw ystyriaethau. Y gair Eglwys a ar- wydda weithiau nnrhyw gynnull- eidfa o ddynion, pa un bynnag ai da ai drwg, credinwyr neu «nghredin- wyr a fyddont. Felly yn Act. 19. 41. ofer ddynion Ephesus, y rhai a wnaethant derfysg yn y ddinas, y crefftwyr a'r gwneuthurwyr delwau, a elwir yn Eglwys. Yn ol ein cyf- ieithiad ni y niae fel hyn,—'-Efea ollyngodd y gynnuìleidfa ymaith;' ond pe buasid yn Cymreigio y gair Groeg, 'y cyfieithiad a fuasai,' Efe a ollyngodd yr Eglwys ;' a'r Eglwys honno oedd dyhirwyr Ephesus. Y gair Eglwys hefyd a gyramerir am gymdeithas o Gristionogion, yn píoíîfetu ffydd yng Nghrist. Felly Gol. 4.16. 'Nymphas, a'r Eglwys 2C sydd yn ei dý ef/ ' Annerchwch yr Eglwys sydd yn eu tý hwy/ Rhuf. 16. 5. Hynny yw, y teulu ag oedd yn proffesu crefydd Crist. Anaml y byddai y Crisdonogion, yn yr amseroedd hynny, yn ymgynnull mewn tai gweddi, ond mewn tai yu perthyn i'r brodyr; canys yr oedd- ynt dan erledigaeth mor fawr, fel y byddai yn rhaid iddynt ymgynnull yn aml yn y nos yn nhai eu gilydd ; herwydd pá ham, anhawdd yw profi fod lle o addoliad yn cael ei alw yn Eglwys yn y Testament Newydd, oddieithr yn 1 Cor. 11. 12., pan y dywed St. Paul, ' Onid oes gennych dai i fwytta ac i yfed ? ai dirmyga yr ydych chwi Eglwys Dduw P Tybia ihai fod St. Paul yma yn gosod gwahaniaeth rhwng yr Eg- lwys, neu y lle y cynnelid gẃasan- aeth Duw ynddo, a'u tai annedd. Fel pe dywẁdasai yr Apostol, Os cynnal gwleddoedd anghymmedroi a wnewch, ac ymlenwi yn eich cariad-wleddoedd, y mae gennych dai gartref, lle ag sydd lawer gweddeiddiach nag yn yr Egìwys, y île a gyssegrwyd at wasanaeth Duw1. Yn yr un ystyr y cymmérir y gair Eglwys yn fynych yn ysgrifeoiadau y Tadau. Yr ydym yn cael hanes fod Clement o Alexandria, o ddeutu y flwyddyn 220, yn cynghori y gwra^ gedd i fyned i uaewn i'r Eglwys gyda