Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 122. AWST, 1845. Cyf. X. YR EGLWYS GRISTIONOGOL.—(0 tudal.ììl.) *> St. Ignatius, pan yn darliinio dyledswydd y gwyr llëyg, a ddywed fel hyn:—' Megis na wnaeth Crist ddim heb y Tad, felly, fy anwylyd, na wnewch chwitbau ddim heb yr Esgob a'i Henuriaid ; eithr ymgyn- nullwch i'r un lle, fel y byddo gen- nych un weddi, un erfyniad, un meddwl, ac un gobaith.' A dywed yr un hen athraw clodfawr, fod pwy bynnag ag sydd yn gwrthwynebu r Esgob yn gwasanaethu y diafol. Y Gweinidog isaf ei radd yn y btif Eglwys oedd y Diacon ; swydd yr hwn yn bennaf, ar y cyntaf, oedd gwasanaethu byrddau ; hynny yw, edrych at a chyfrannu yr elusennau a gesglid i'r aelodau tlodion, a rhoddi y bara a'r gwin i'r cymmun- wyr ; ac hefyd, trwy gennad yr Esgob, i bregethu a bedyddio. Ond nid oedd un Diacon yn rhydd i gys- segru y bara a'r gwin, nac i bre- gethu ychwaith heb gennad yr Esgob. Mewn perthynas i gynnaliaeth gwyr llên y brif Eglwys ; * Canys ordeiniodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn pregethu yr efengyl fwy wrth yr efengyl.' 1 Cor. 9. 14. Eu cynnal- iaéth ar y cyntaf oedd gasgliadau gwirfoddol oddiwrth aelodau y gyn- nulleidfa, pob un yn ol ei allu ; yr hyn> yn yr oesoedd cyntefig, pan oedd zel y Cristionogiou yn wresog, 2G oedd gynnaliaeth ddigonol. Ac heblaw hynny, prynent dyddyn ehang o dir, fel y byddai hynny yn rhan safadwy ; a rhwng y ddau hyn, sef y casgliadau a'r tyddyn, yr oedd ganddynt helaethrwydd ; 'ie, gyra- maint fel yr oedd rhai yn dechreu grwgnach ; yr hyn a barodd i Ioan Aur-enau (Chrysostom) wneuthur traethawd pennodol, yn y flwyddyn 400, er amddiffyn cynnaliaeth y gwyr llên, yn erbyn y rhai ag oedd yn cynfigennu wrth eu llwyddiant. Os dywedir fod dull presennol Eg- lwys Loegr o gynnal ei gwyr llên yn hollol groes i ddull y brif Eg- lwys, ac yn farwolaeth i'r gyfun- dráeth wirfoddol, attebir, Nad oes un eglwys pa bynnag yn carrio y gyfundraethwirfoddoli fwy o eithaf- nod, nac yn fwy effro, nac yu gwneu- thur mwy o rymmusderau ar y maes Cristionogol, yn ei holl ddosparth- iadau, nag Eglwys Loegr, yn .y blynyddau diweddaf hyn. Ac er profi yr haeriad hyn, crybwyllir yr amgylchiadau canlynol:— Yn y flwyddyn 1820, y derbyn- iadau gwirfoddol at y tair Cym- deithas fawr Eglwysig oeddynt fel y canlyn:— Y Gymdeithas er taenu Gwy- bodaeth Gristionogol, 51782p.; y Gymdeithas Genhadol Eglwysig, 31076p.; y Gymdeithas er taenu