Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. Rhif. 123. MEDI, 1845. Cyf. X. YR EGLWYS GRISTIONOGOL.—(Otudal.lil.) Dywedir fod yr Eidal yn un oìygfa o alanastra rhyfel yn achos y delwau yn yr wythfed canrif; y di- nasoedd yn llawn terfysg, a'r maes- ydd yn llawn brwydrau. Hanes Pabau Rhufain, am y naw- fed a'r degfed canrif, medd Mo- sheim, ydyw hanes am gynnifer o anghenfilod mewn gwedd ddynol, ac nid dynion ; cyflawnent y beiau mwyaf erchyll, gwarthus, a ífiaidd. Darlunia Baronius yr unfed can- rif ar ddeg yn hynod gywir, pau ei geilw yn oes haiarnaidd, yn amddi- fad o ddaioni; yn oes blymmaidd, yn llawn o ddrygioni; ac yn oes o dywyllwch fel y fagddu, heb ddyn- ìon o ddysg na dawn ynddi. Yn y deuddegfed a'r trydydd canrif ar ddeg, prif orchwyl Rhu- fain Babaidd, yn bennaf yn Ffraingc a'r Yspaen, oedd tywallt gwaed y Waldensiaid. Y mae yn ddigon i beri i waed un dyn redeg yn oer trwy ei wythiennau, medd yr Esgob Newton, i ddarllen hanes y galan- astra creulon, a'r difrod ofnadwy, a wnaed ar y Cristionogion tlodion a diniwed hyn, gan y bernir i fwy na deg can' mil o honynt gael eu llof- ruddio yn y wedd greulonaf. Yn y pedwerydd canrif ar ddeg, dygodd Tamerlane a'i filwyr eu harfau di- nystriol a buddugoliaethus y'mlaen dros fwy na'r drydedd rau o'r byd 2L adnabyddus y pryd hwnnw, fel y bu i Gristionogaeth gael ei hollol ddileu o amryw wledydd Asia ; a chrefydd y Coran a sefydlwyd yn ei lle. Yn y pumthegfed canrif, dyg- wyd yr erledigaethau creulonaf ym mlaen yn erbyn y Lolardiaid, a nifer fwy nag a ellir enwi o honynt a roddwyd i farwoìaeth. Yn yr unfed canrif ar bumtheg, pan ddechreuodd yr enwog Lutber y diwygiad yn yr Almaen, cododd y Pab a'i Offeiriaid i fynu fel un gwr, i geisio gwrthwynebu y Diwygiad Protestanaidd ; a throchwyd amryw wledydd â gwaed y Gwrtbdystwyr. Yn yr Almaen, yn y flwyddyn 1525, difethwyd chwech can* rail, a dy- wedir i 15,000000, mewn llai ua deu- gain mlynedd, gael eu gosod i far- wolaeth ym mhlith brodorion yr Yspaen Americanaidd. Yn Holand, dywed Grotius fod nifer y mer- thyron yn gan* mil. Yn Ffraingc, yn y flwyddyn 1572, dan Cbarles IX. llofruddiwyd deng mil mewn tri diwrnod, nes yr oedd y gwaed yn ymarllwys yn ffrydiau cryfion i'r afon gymmydogol. Anrheithiwyd holl ddinas Paris; ac ymledanodd yr erledigaeth o Paris dros y deyr- nas i gyd, fel y difethwyd can' mil o Brotestaniaid yn y galanastra hwn. Yu Lloegr a Chymru, yn am8er Mari, dioddefodd yr Eglwy*