Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAÜL. Rhif. 124. HYDREF, 1845. Cyf. X. ADGYFODIAD CRIST. Adgyfodiad Crist yw sylfaen ein crefydd, neu brif olwyn y peiriant Cristionogol, a chonglfaen Protes- taniaeth. Os bydd yr olwyn hon yn gryf a chadarn, fe weithia y peiriant yn effeithiol, llwyddiannus, ac aw- durdodol; ond, ar y llaw arall, os bydd yr olwyn hon yn ddinerth ac yn wan, bydd cylchdroadau y peir- iant yn sicr o fod yn llesg ac yn araf; a bydd Cristionogaeth mewn perygl o gael ei hanurddo gan syn- iadau anghymhwys a chyfeiliornus am ei phrif athrawiaeth. Gan fod cymmaint o bwysfawrogrwydd yn gyssylltedig â'r athrawiaeth nefol a gogoneddus hon, y mae yn ddyled- swyddau arnom i fod yn fanwl a gofalus yn ei chylch ; oblegid, os bydd y brif olwyn mewn cyflwr an- sicr, bydd y peiriant mewn perygl o sefyll; ac os bydd y sylfaen yn ddrwg, bydd y tý yn sicr o syrthio, a ninnau mewn perygl o gael ein claddu yn yr adfaìl. Y mae dilys- rwydd ein iachawdwriaeth yn di- bynnu yn hollol ar yrerthygl hon yn ein credo. * Ac os Crist ui chyfod- wyd/ meddai St. Paul, «ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych etto yn eich pechodau/ Os na chyfododd, ni bu farw ; os na bu farw, nid ym- gnawdolodd; ac os nad ymgnawd- olodd, nid oes modd i gadw un o hil syrthiedig Adda. Yma y %welwn y 2P tywyllwch dudew a dynna y rhai bynny dros drefn achub, ag sydd am wadu y ffaith ddilys hon. Y mae yn rhaid i ni daflu ymaith bob amheuaeth o'n meddwl ynghylch ei gwirionedd, ac y mae yn rhaid fod geunym grediniaeth ddiysgog ynddi, cyn y deuwn o fewn terfynau am- modau rhad ras ; canys os na bydd gennym y ffydd grefaf ynddi, ac os na orphwyswn ein heneidiau arni am fywyd tragywýddol, yr ydym yn sicr o godi adeilad i'n heneidiau ar dywod lleidiog amheuaeth a phet- rusder. I. Mi a ymdrechaf brofi adgy- fodiad Crist o'r bedd. II. Mi a sylwaf ar rai o'r rhagor- freintiau sydd yn tarddu i ddynol- ryw trwy hynny. I. Adgyfodiad Crist o'r bedd. Trown ein meddyliau yn awr ara funud tua bedd newydd Joseph; yno y gwelwn Grist yn wael a gwelw ei wedd yng nghadwynau angeu du, ac yn gaeth o dan lywodraeth gelyn dynoliaeth; ond ar dorriad gwawr bore y trydydd dydd, gwelwn ar- wyddion o fywyd yng ngharcharor angeu caeth ; ie, gwelwn lyffetheir- iau brenhin braw yn cael eu dryllio, a chadwynau y bedd yn çael eu chwilfriwio, ac yntau ynymsythuo diriogaeth brenhiu y dychryniadau, ac allweddau y bedd yn crogi wrth