Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAUL. CYFRES NEWYDD. " YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI. "A 'gair duw yn UCHAF." Rhif. 13. IONAWR, 1851. Cyf. II. Y DIWEDDAR BARCH. WALTER DAVIES, M. A., (GWALLTER MECHAIN.) [Parhad o Cyf. 1". tu dalen 377.] 31^^ oedd Walter Davies yn fardd Crf- o'r radd uchaf, yn meddu y drychfeddyliau mwyaf dyrchafedig, ac o'r archwaeth buraf; mewn gair, yr oedd yn fawr yra mhob peth, ac yn disgleirio ym mhob peth a gym- merai mewn llaw. Ynghylch ei urddiad, ni all yr ysgrifennydd ddywedyd dim, canys nid yw y def- nyddiau sydd ger ei fron yn cry- bwyll dim ara hynny; ond wedi iddo fyned i'r weinidogaeth, efe a gyflawnodd ei dyledswyddau mewn ffyddlondeb, ac a ddechreuodd sef- ydlu y cymmeriad llëenyddaw] a barddonawl hwnnw, a fu, ac a fydd yn anrhydedd iddo ef a'i wlad byth. Yr oedd yn ddyn da, ac yn ymgais at ddaioni; ac ym mhel] iawn o yrableseru mewn gwagedd, ac mewn pethau gwageddus. Cyflwynwyd Curadiaeth Yspytty Ifan iddo ym moreuddydd ei weinidogaeth gan Arglwydd Mostyn, ac wedi hynny cyflwynwyd Rectoriaeth Llanwydd- elan iddo gan yr Esgob Horseley ; ac ym mhen un mis ar bumtheg ar ol y dyrchafiad hwn, rhoddwyd byw- ioliaeth Manafon iddo gan yr Esgob Cleaver; ac y mae yn iawn cryhwyll i'r dyrchafiadau hyn gael eu rhoddí iddo oblegid ei deilyngdod,yn neill- duol yrolafgan yr Esgob Cleaver, am y cynnorthwyon a roes efe tuag at ddiwygio llythyreniaeth y Bibl Cymraeg yn y flwyddyn 1809. Dy- raunai roddi Curadiaeth Yspytty Ifan i fynu ; ond ewyllys Arglwydd Mostyn oedd íddo ei dal, oblegid rhesymmau oedd gan ei Arglwydd- iaeth. Yn ei hen ddyddiau, fel arwydd o barchdiffuant iddo,rhodd- wyd ef raewn meddiant o Ficeriaeth Llanrhaiadr-ym-Mochnant, lle y bu yr enwog Dr. William Morgan gynt; ac yma y rhifwyd Gwallter Mechain at ei bobl, ac o'r lle hwn y disgyn- nodd efe i byrth y bedd. Mae y nifer amlaf o bryddestau Gwallter Mechain wedi eu cyfan- soddi yn yr hen ddull, megis ag y trosglwyddwyd ef i lawr o'r hen