Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR HAÜL. CYFRES NEWYDD* "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhif. 38. CHWEFROR, 1853. Cyf. IV. Y CYFAMMOD HEN A'R CYFAMMOD NEWYDD, NEU EGLWYS YR HEN DESTAMENT, AC EGLWYS Y TESTAMENT NEWYDD. *ÇjC wedi dyfod dydd yPentecost,yr <d oeddynt hwy oll yn gyttûn yn yr un lle. Ac ynddisymmwth y daeth swn o'r nef,megisgwyntnerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un o honynt. A hwy oll a lanwyd â'r Yspryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Yspryd iddynt ymadrodd. Ac yr oedd yn trigo yn Jerusalem, Iuddewoa, gwyr buch- eddol o bob cenedl dan y nef.'—Act. i . 1—5. Dyma sail yr Eglwys Gristonogol gwedi cael ei gosod mewn nerth a thrwy awdurdod oddi uchod; sef yr Eglwys honno a seiliwyd yn y dyddiau di- weddaf, ac sydd hefyd i barhau hyd derfyn amser. Dylanwadau nerthol yr Yspryd Glân oddi uchod yn y tywailt- iad grymmus dan sylw, a gynnyrchodd y cyfryw nertholdeb o weithrediad yn yr holí Apostolion, fel mor gynted ag y derbyniasant eu hawdurdodiad o * fyned a dysgu yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio yn enw y Tad a'r Mab, a'r Yspryd Glân,' hwy a aethant oddi amgylch i gyhoeddi rhyfeddodau mawrion trefn iachawdwriaeth i gyfr- golledigion, ynghyd â'r cyflawnder o honi, a'i haddasrwydd cawedigol i holl deulu dyn. Pan glywodd y dorf fawr bethau rhyfedd yr iachawdwriaeth hon; pethau na chlywsant mo'u cyffelyb er- ioed o'r blaen : a phethau na ddych- ymmygodd calon dyn erioed am dan- ynt;—pan gly wsant y pethau hyn, rhyfeddu a wnaethant, gan ammeu, a gofyn i'r naill y llall,—' Beth a all hyn fod?'—' Ni chlywsom ni erioed bethau * Parhad o tu dal. 8. fel hyn o'r blaen ; y mae íu hwnt i'n deall ni;'—' Beth a íúl hyn fod?'— ' Eithr Petr, yn sefyll gyda'r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wyr o Iuddew- on, a chwi oli sydd yn trigo yn Jeru- salein, bydded hyspysol hyn i chwi, a chlust-ymwrandewch a'm geiriau—Iesu o Nazareth, gwr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rliyfeddodau, ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau. Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gynghor a rhag-wybodaeth Duw, a gymmerasoch chwi, a thrwy ddwylaw anwir a groeshoeliasoch, ac a laddas- och ; Yr hwn a gyfododd Duw, gan. ryddhau gofidiau angau; canys nid oedd bossibl ei attal ef ganddo.' Ac wedi i'r Apostol grybwyll am bro- phwydoliaethau manylaidd Dafydd am dano yn llyfr y Psalmau, y mae yn, j?chwanegu fel hyn ;—' Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoei- iasoch chwi.' Yr oedd yr ymadroddion hyn yn appêl grymmus a nerthol, yr hwn ni ellid ei wrthsefyll. Yr oedd Iesu gwedi cael ei anfon i'r byd; ac wedi gwneuthur gwyrthau a rhyfedd- odau mawrion yn y byd; yr oedd gwedi cael ei ddanfon yn flaenaf at ddefaid cyfrgolledig tŷ Israel; ond er i'r Iachawdwr ddyfod at yr eiddo ei hun, etto yr eiddo ei hun, nis derbyn- iasant ef, ond a'i gwrthodasant, ac a'i croeshoeliasant ar bren. Yr oedd ym- adroddion yr Apostol fel cleddyfau, ac fel piccellau, yn eu trywanu, canys ' Hwythau wedi clywed hyn, a ddwys- bigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Petr a'r Apostolion eraill, Ha