Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YE HAÜL. CYFRES NEWYDD, 'iYNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." «A GAIR DUW YN UCHAF." Rhif. 39. WIAWRTH, 1853. Cyf. IV. Y CYFAMMOD HEN A'R CYFAMMOD NEWYDD, NEU EGLWYS YR HEN DESTAMENT, AC EGLWYS Y TESTAMENT NEWYDD, YN CAEL EU CYFERBYNU A'u GILYDD.* ágP lltílÇ cynnifer o amgylchiadau <5n nodedig yn perthyn i addoliad ac ysgogiadau y ddwy Eglwys; y t'ath unoliaeth mewn amcan, er mor wahanol y dodid hwynt mewn gweithrediad ; y fath amlder o ddigwyddiadau a ym- ddangosant yn anghysson â'u gilydd, etto mewn cyssylltiad cyfattebol â'u gilydd, fel ag y mae y meddwl dynol, gan deimlo ei wendid marwol, yn suddo i'r dyfnderoedd, wrth syllu ar fawredd ac ardderchawgrwydd y pwngc ffiawr hwn. Y mae cyferbynu dy- Wediadau â gweithrediadau, ynghyd àg ymroddiad crefyddol, a'r diysgog- rwydd a ddangoswyd gan ffyddloniaid y ddwy Eglwys, yn oesau bureuol eu hanfodiad, yn gofyn am alluoedd mwy nag a fedd yr ysgrifenydd; ac yn wyneb y gwendid hwn a deimla, ei ddymuniad ydyw, ar fod i ysgrifenydd galluoccach gymmeryd y pwngc hwn mewn Uaw, ac i ymhelaethu arno, er budd a lleshad y wlad yn gyffredinol. Ni wna yr ysgrifenydd yn bresennol, ond nodi yn fyr rai o'r digwyddiadau mwyaf nodedig. Dygwyd EgLwys yr Hen Destament i sylw y byd mewn mawredd ac ar- dderchawgrwydd rhyfeddol. Pan oedd plant yr Israel yn yr anialwch, disgyn- odd Duw Ior o'r uchelion ar fynydd Sinai, yn Arabia ; ac y mae y darlun- iad a roddir o'r amgylchiad a'r ymwel- iad hwn, uwch law pob peth ;—: A Moses a ddug y bobl allan o'r gwersyll, i gyfarfod â Duw ; a hwy a safasant yng ngodre y mynydd. A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, o herwydd disgyn o'r Argiwydd arno mewn tân ; a'i twg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, * Parhad o tu dal. 84. a'r holl fynydd a grynodd yn ddir- fawr.' Crybwyllir hefyd am yr olygfa fawreddog hon, yn yr ymadroddion canlynol ;—' Ar y trydydd dydd, ar y bore-ddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmmwl tew ar y mynydd, a llais yr udgorn ydoedd gryf iawn ; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll.' Ni fu erioed y fath olygfa mor fawreddog ag ar fynydd Sinai; Duw y nefoedd ei hun gwedi disgyn ym mawredd ardderchawgrwydd ei ogoniant yng ngolwg myrddiynau Israel, y rhai a babellent ar y pryd yn yr anialwch : a phan ag y mae y Psalmydd yn cyfeirio at yr amgylchiad hwn, y mae yn dywedyd ;—' Cerbydau Duw ydynt ugain mil, sef miloedd o angylion ; yr Arglwydd sydd yn eu plith, megis yn Sinai yn y Cyssegr.' Yr oedd ofn drwy yr holl iwythau ; a dychryn a braw yntayrnasu yn gyffred- inol; a pha ryfedd % canys y mae St. Paul yn ei Epistol at yr Hebreaid yn dywedyd,—' Ac mor ofnadwy oedd y golwg, fel ag y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.' Yr oedd y fath ddychryn rhyfeddol gwedi cym- meryd gafael ym mhlant yr Israel, yn wyneb y golygfeydd a welsant ar fyn- ydd Sinai, fel ag y dy wedir. ' A'r holl bobl a welsant y taranau, a'r mellt, a'r mynydd yn mygu : a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell. A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni,a nyni a wrandawn ; ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw.' Yn y mawredd annarluniadwy hwn, y gosodwyd lawr sail yr Hen Eglwys yn yr anialwch ; mewn cynnwrf a thymhestl fawreddog ; canys y gwynt nerthol a chwythai dros anialwch a di- ffeithleoedd pechod, anwiredd, ahalog- rwydd dyn.