Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DffiWESTYDD DEHEUOL. "Hir-hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant."—-Solomon. Rhif. 6.] CHWEFROR, 1841. [Pris 1g. MEDDWDOD A'I GANLYNIADAU. Pwy bia'r plant bacli yna sydd yn myned ar hyd yr heoî, mor llwni eu dillad, ac yn edrych fel pe baent heb ddigon o fwyd ? Pwy a'u pia ! onid plant y d'yti meddw ydynt hwy ? yr adyn atgas hwnw ag sydd yn treulio ei amser ac yn gwario ei arian yn y tafarndai, tra y mae ei dylwyth ag eisieu b.wy'd arnyrit gartref. Y mae yn drueni gweled y rhai bach gwiriori yn crwydro oddiamgylch yn y modd yma, a hyny o segurdod a meddwdod yr hwn a ddylai ddarparu ymborth iddynt. Os gwir yw gair Duw, fe ddaw dial; mae y wae ofnadwy wedi èi chyhoeddi uwch ben y cyfryw, oblegid, "Od oes neb, heb ddarbod dros yreiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wàdodd y ff'ydd, a gwaeth yw ná'r diffydd." Pwy yw y fenywgarpiog annyben acw, morwael ei gwedd, ac mor drist ei hwynebpryd ? Pwy yw hi! onid gwraig y dyn meddw yw hi ? Yr wyf yn ei chofio hi mor ddeheued merch ieuanc ag un yn yr ardal, ac mewn parch gyda phawb o'i chydnabyddiaeth ; ond hi briododd feddwyn, a thyna y eyflwr sydd arni yn awr ; " Un pecbadur a ddinystria lawer o ddaioni." • Pa beth yw yr aehos fod y bobl yn crynhoi yn nghyd yn yr heol yii y modd acw? Onid dodrefn y dyn meddw sydd . yn cael eu gwertbu ? Paham y gwerthir hwy ? I dalu ei ddyled, yn llyn. Gwariodd ei holl feddiannau er porthi ei ehwant, a difí'rwythodd ei amser gwerthfawr mewn cyfeddaclí a segurdod gyda dynion ofer, ac yn awr gwerthir ei eiddo i dalu yr ardreth ; gwelwn yr ysgrythyr yn cael ei chyflawni, " Y neb a ddilyno oferwyr a gaiff' ddigon o cllodi." Pa beth yw yr holl derfysg acw, a phwy y maent yn ei gario ar'y glwyd yn y modd yna? Onid y dyn meddw yẁ efe, a aeth i ymladd yn yr heol, ac a gWympocld dan olwyn- ion y cerbyd, ac a dorodd ei asenau ! Ai byw ai marw yw efe ? Y mae anadl ynddo etto, ond ni ellir dywedyd a all ef