Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

3sxf/ YR HANESYDD CENADAWL, RHIFYN CHWANEGOL, HYDREF, 1827. CYMDEITHAS GENADAWL LLUNDAIN. CYFARCH-LYTHYR Y CYFARWYDDWYR AT AELODAU AC EWYLLYSWYR DA Y GYMDEITHAS, O HERWYDD El HANGEN A'I CHYFYNGDER PRESENOL. Y Ty Ccnadawl, Austin Friars^ Awst. 2áain, 1827. S1R, Mae Cyfarwyddwyr Cymdeithás Genadol Llundain yn deisyfu cenad i alw eich ystyriaeth at ychydig bethau a berthynant i sefyJlfa arianol y Gymdeithas. Er ys ainryw flynyddoedd a aethant heibio, yr oedd derbyniadau y Gymdeithas yn anghyfattebol i'w thraul, yr hyn a barodd, o bryd i bryd, iddi ddefnyddio cyfraniadauo'rTrysorau oedd ganddi yn nghadw erbyn taro, am yr hyn nid oedd y Cyfarwyddwyr yn ewyllysio cwyno, gan eu bod yn gobeithio y byddai i'r ysbryd o gariad at yr Achoa mawr Cenadol, sydd yn cynnyddu yn yr Eglwysi, beri i'r anghyfartalwch hyn ddarfod yn fuan. Yn ystod y ílwyddyn a ddybenodd Mawrth diweddaf, dygwyddodd amryw amgylchiadau, yn enwedig danfon allan nifer aiawr o Genadau, i beri oost fawr iawn ar y Gymdeithas, fel y gorfu ymosod draohefn, yn ddwys iawn, ar y Trysorau rhagddywededig erbyn taro. Lleiâwyd y rbai hyn gymmaint a 7000 0 bunnau, heb law gadael baich arall o fwy na 2000 o bunnau i syrthio ar dderbyniadau y flwyddyn ganlynol. Mae yr agwedd hyn ar bethau, o gymmaint pwys, fel mae y Cyfarwyddwyr yn ewyllysgar yia defnyddio y cyngor a roddwyd iddynt, sef, gosod yr amgylchiadau 0 flaen Aelodau a Chyfeìllion y Gymdeithas yn gyffredin, gan hyderu y gwnant i fynu y golled yn Nhrysorfeydd y Gymdeithas trwy un ymdrechiad gwir- foddol o haelioni. Mae y Cyfarwyddwyr yn tybied nad oes eisiau dim ond yr adroddiad syml a geirwir hyn ar y personau hyny, at ba rai maent yn chwennych i'r Hythyr hwn gael ei ddanfon. Maent yn amlygu eu hangen gèr bròn y rhai hyny y planodd Duw y gras gariad Críst, a sel dros ei ogoniant, yn ea calonau, ac y rhai a wahaniaethodd efe mewn mesur mwy neu lai, trwy ddoniau ei ragluniaeth haelionus.—Frodyr Cristionogol, dymunem ddy- meàyû i chwi dros ein Harglwydd Iesu, a myrddiynau o'n cyd-ddyjaiŵis^