Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

308 JOHN ELIAS. nesau at broffeswyr; ac ni allai oddef ymddyddanion ieuenctid anghref*- yddol. Byddai yn fynych yn gwrando tair pregeth ar y Sabboth ; ond byddai raid teithio llawer i'w cael yn y dyddiau hyiiy. Pan y byddai rhyw bregethwr enwog o'r Deheudir yn dyfod i'r wlad, cerddai weithiau dros ddeng milltir ar foreu Sabboth, i gael y bregeth gyntaf; a byddai yn dìlyn y gwr dyeithr hyd yr hwyr, yn fynych heb ond ychydig o fwyd trwy y dydd. Yr oedd yn cael hyfrydwch mawr yn gwrando, er mai ychydig o oleuni ysbrydol, efengylaidd, oedd eto wedi tywynu i'w feddwl. Y pryd hyn cyfododd awydd mawr ynddo am ddarllen llyfrau crefyddol; ond nid oedd ond ychydig i'w cael yr amser hwn yn yr iaith Gymraeg. Cerddai yn mhell i geisio benthyg llyfr. Cafodd les mawr trwy ddarllen Catecism, a llyfrau eraill, o waith y Parch. G. Jones, Llanddowror ; gwaith Eliseus Cole; Mêr Duwinyddiaeth, &c. Bu y llyfrau hyn yn foddion i oleuo ei feddwl yn yr athrawiaeth am drefn rasol Duw yn achub dyn. Pan yr oedd o bedair-ar-ddeg i un-ar-bymtheg oed, profodd ymdrech- feydd tufewnol grymus. Yr oedd yn teimlo llygredigaeth ei galon yn ym- gynhyrfu yn fawr, a thueddiadau i ymwylltio fel ei gyfoedion. Ond ni chafodd y llygredd fuddugoliaeth, eithr yr oedd argraffiadau geiriau y Bibl yn dyfnhâu ar ei feddyliau. Dechreuodd nesu at rai o'r proffeswyr wrth fyned i'r oedfäon. Ac wrth wrando ar eu hymddyddanion buddiol, ac edryeh ar eu hymarweddiad duwiol, yr oedd yn teimlo awydd mawr eael myned i'w cymdeithas eglwysig. Ond, oddiar ofn am ei gyflwr, a golwg ar ei anghymhwysder, yr oedd yn methu tori trwodd i ymgynnyg yn aelod eglwysig. Bu dan ymrysoniadau cryfion yn y peth hwn dros dair blynedd. Yn y cyfamser, efe a gyfododd addoliad teuluaidd yn nhŷ ei dad. Un noswaith, wrth wrando gŵr yn pregethu, daeth y gair hwnw gyda grym mawr i'w feddwl, * Pwy bynag fyddo cywilydd ganddo íi a'm geiriau yn yr odinebus a'r bechadurus genedlaeth hon, bydd cywilydd gan Fab y dyn yntau, pan ddel yn ngogoniant ei Dad, gyda'i angelion sanctaidd.' Aeth tuag adref â'i feddwl yn hynod derfysglyd, dan weddio am i'r Arglwydd faddeu iddo, a'i nerthu i arddel Crist o hyny allan. Pan gyrhaeddodd adref, yr oedd ei dad a'i fam ar eu traed. Dywedodd wrthynt am y trallod oedd ar ei feddwl, a gofynodd genad i ddarìlen a cheisio gweddio yn y teulu. Cafodd oddefiad i wneyd, a dechreuodd yr awr hono. Yr oedd yn parhau gyda hyn bob cyfle a gaffai, er nad oedd yn cael Uawer o galondid oddiwrth ei deulu y pryd hwnw. Pan yr oedd tua dwy-ar-bymtheg oed, yr oedd awydd mawr ynddo am fyned i Langeitho, Jerusalem y Methodistiaid Cymreig yn y dyddiau hyny, i gael gwrando y Parch. Daniel Rowlands. Wedi clywed y fath sôn am dano, yr oedd yn dysgwyl, ond cael ei wrando, y derbyniai rywbeth rhy- fedd trwy ei weinidogaeth. Un Sabboth y pryd hwn, aeth i Pwllheli i wrando rhyw bregethwr ; a chan ei fod yn rny fuan at amser yr oedfa yn nghapel y Methodistiaid, aeth i wrando y Parch. Benjamin Jones, gwein- idog cymeradwy iawn gyda'r Annibynwyr. Mr. Jones a ddarllenodd yn destun y geiriau hyny, ' Oni wyddoch i dywysog a gwr mawr syrthio heddyw yn Israel ?' Dywedodd mai yr achlysur iddo gymeryd y testun hwnw oedd ei fod wedi clywed y newydd galarus fod y Parch. Daniel Rowlands, yr hwn oedd dywysog a gwr mawr yn Israel Duw yn Nghymru, wedi syrthio yn angeu. Effeithiodd yr hysbysiad hwn yn ddwys iawn ar