Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

420 COFIANT A LLYTHYRAU enu, i drosglwyddo gwybodaeth anffaeledig o honi i'r oesoedd dilynol, yn deilwng o'r warant neu y sêl ddwyfol hon, " Yr holl Ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysbrydoliaeth Duw." Felly y mae yn cael ei galw yn fynych yn "air," neu "eiriau," neu "ymadroddion Duw ;" gan eglurhau dyben eu dwyfolaeth tuag atom ni, " Fel na byddai eich ffydd chwi mewn doethineb dynion, ond mewn nerth Duw:" a'r holl bechaduriaid a ddychwelwyd i gyflwr cadwedig a'i derbyniasant, "nid fel y mae yn air dyn, ond fel y mae yn wir yn air Duw." AfciSl^Jhfh+S -^Mf COFIANT A LLYTHYRAU ANN GRIFFITHS. Priodol yw dywedyd am wrthddrych y cofiant hwn yn gyffelyb ac y dywedodd yr apostol Paul am Andronicus a Junia, ei geraint, eu bod " yn hynod ymhlith yr apostolion." Am Ann Griffìths, gwirionedd diormodd- iaeth ydyw ei bod yn hynod ymhlith y merched a'r gwragedd crefyddol. Hi oedd ferch henaf John a Jane Thomas, Dolwar Fechan, plwyf Llanfí- hangei yn Ngwynfa, sîr Drefaldwyn, a'r ieuangaf ond un o'u plant. Yr oedd Mr. John Thomas yn un o'r tyddynwyr mwyaf parchedig yn y plwyf, yn ẃr synwyrol fel gwladwr, ac yn meddu ar radd o ddawn barddoniaeth. Eglwyswr selog oedd ef, a'i deulu oedd o'r un tueddfryd; ond nid oedd dim gwir ddaioni i'w ddysgwyl yn eglwys y plwyf y pryd hyny, canys nid " oedd yno weledigaeth eglur." Hynod o bell oedd Mr. John Thomas a'i deulu oddiwrth feddwl am wrandaw ar neb o bregethwyr un blaid o Ym- neillduwyr. Myned i eglwys y plwyf y Sabbothau, a dilyn y dawns, &c. oedd agwedd ieuenctyd y wlad y pryd hwnw, ac felly yr arferai ieuenctyd y teulu hwn. Ond daeth crefydd er hyny i'r teulu hwn, a hyny yn y modd a ganlyn. Rhoddodd un cymydog, oedd yn aelod gyda y Method- istiaid Calfinaidd, fenthyg y llyfr hwnw o waith Baxter, a elwir " Tragyw- yddol Orphwysfa 'r Saint," i John, mab hynaf John Thomas; ac wrth ddarllen hwnw, a'i ddarllen hefyd i ryw wraig oedd yn y gymydogaeth, yr hon, mae yn debyg, oedd heb fedru darllen ei hunan, ymaflodd yn ei feddwl ddwys-ystyriaeth o'r anghenrheidrwydd am feddu gwir grefydd. Ond y modd yr oedd yn bwriadu cyrhaedd hyny oedd trwy fynych gyrchu i eglwys y plwyf, gan adrodd tywydd ei feddwl wrth yr offeiriad, yr hwn a ymddygai yn serchog tuag ato, a dangosai lawer o barch iddo; ond er hyny nid oedd ei gynghorion iddo yn feddyginiaeth gymhwys i enaid ar- gyhoeddedig, sef ei gynghori i ymarfer â difyrwch cnawdol, i gael ymlid ymaith bob meddyliau pruddaidd a thrymion. Wedi cael ei siomi yn nghyfeillach yroffeiriad, ymroddoddiddyfodiBenllŷs i wrandaw gweinid- ogaeth pregethwyr y Methodistiaid ; a thrwy y cyfryw foddion, cafodd yr ymgeledd ag yr oedd yn teimlo anghen am dano, a chynnygiodd ei hun yn aelod o'r cyfryw blaid grefyddol, a chafodd dderbyniad serchog.