Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. PAUL A THIMOTHEUS. ANERCHIAD AT BREGETHWTR IEUAINC CTMRU. ÀNWYL Frodtr :—Chwi a wyddoch fod y pulpud yn cario dylanwad cryf ac iachusol ar ein cenedl ni er ys Uawer o flyneddau bellach. Os yw cenedloedd eraill yn ddyledwyr i'r argraffwasg, i'r pulpud yn benaf, ac yn wir i'r pulpud ymneillduol hefyd, mae y werin yn Nghymru, gan mwyaf, yn rhwymedig. Efe sydd wedi goleuo eu tywyllwch, a dyrchafu eu moesau —codi ynddynt syched am wybodaeth gyffredinol, yn gystal .a rhoddi iddynt wybodaeth o'r ysgrythyr lân ; ac felly darpar eu meddyliau i dderbyn addysg ac amaethiad pellach drwy y ffyrdd amrywiol ag sydd yn lliosogi yn eu mysg yn y dyddiau hyn. Y modd yma mae y pulpud Cym- reig, er pob anfanteision, ac yn wyneb llawer o wawd a dirmyg hefyd, wedi ennill llywodraeth gref ar deimladau U'iawrs o'n cydgenedl, ac yn sefyll yn uchel a dyladwy yn eu serchiadau. Ac mae yr ystyriaeth o*r perygl iddo golli neu gamddefnyddio y dylanwrad hwn, trwy anfedrusrwydd, ysgafnder, ac annghrefydd y rhai a safant ynddo, yn cyffroi ein meddyliau ni i anturio i'ch auerch ar hyn o bryd. Yr ydym yn llwyr argylioeddiadol, na chedwir mo'r pulpud Cymreig yn hir eto yn ei fri a'i ddefnyddioldeb, heb i Dduw a'i eglwys ddyfod allan i'w gynnortlwyo; ac heb i'r rhai sydd dano, yn gystal a'r rhai sydd o'i fewn, gydymdrechu yn nghyflawniad eu gwahanol ddyledswyddau, a hyny yn Uawer mwy egnîol nag yr ydys yn gwneuthur yn bresennol. Rhaid i chwi yn anad neb, frodyr ieuainc, ym- ddyosg at eich gwaith. Cyflog, neu beidio, mae yn ddyledswydd arnoch chwi roddi pob moment a alloch hebgor, i amaethu eich meddyliau eich hunain, ac i ddarpar at adeiladaeth rhai eraill. Mae eich gwrandawwyr yn cynnyddu mewn gwybodaeth, ac ni chymerant genych eiriau yn llo mater, na mater heb ysbryd; ac os mynech wneyd argraff dda ar eich cyd- oeswyr, ac nid dwyn eich hunain a'r weinidogaeth i ddiystyrwch a gwarth, mae yn rhaid i chwi lafurio ; 'ie, Uafurio sydd raid i chwi. Goddefwch, gan tyny, air oddiwrthym y tro hwn. ^id ydym yn bwriadu cyfyngu ein hunain at unrhyw fater neillduol, na chymeryd un gair fel testun ; ond nyni a wnawn ychydig o sylwadau rhydd N amryfath, sylwedd pa rai a gasglwyd allan o lythyrau Paul at Timotheus. istyrir yr epistolau hyn, ynghyd â'r un at Titus, yn feusydd toreithiog lawn o addysgiadau eglwysig; ac yn cynnwys y darluniad mwyaf eglur o'r jsbryd a ddylai hynodi deiliaid teymas Crist, a pha ryw fath ddynion a üuylech chwithau fod, gweinidogion y deyrnas hono, mewn sanctaidd ym- arweddiad a duwioldeb. Am nas srallwn ni yn bresennol ond codi tywysen [EBRILL, 1817.] k