Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ó04 JOHN EVANS, LLWYNFFOHTUN, JOHN EVANS, LLWYNFFORTUN. [Hanes Bywyd y Parch. John Evans, Llwynffortun. Gan Tiiomas Joiin Williams, Myddfai. Llanelli, argraffwyd gan Rees a Williams. 1848.] Nid yw y Uyfr hwn heb ei ddiftÿgion, ac nid ydynt yn anhawdd eu canfod. Braidd na feddylieni y gallasai fbd, mewn rhai manau, ryw fymryn byehan yn fwy trefnus. Ond yr hyn y cwynwn yn benaf o'i herwydd, yw eisieu mwy o John Evans, Llwyntìbrtun—nid niwy o hanes anidano a feddyliwn, ond mwy o hono ef ei hun. Y lìòrdd oreu i ysgrifenu bywgrattìad, yn ol ein barn ni, yw gadael y person y rhoddir ei lianes, hyd y gellir, i lefaru drosto ei hun. Yr ydym yn cydnabod nad oedd yma nemawr o lytliyrau i'w cael, fel yr oedd ar ol y Dr. Arnold, a John Foster: ond ar yr un pryd gallesid efelychu Boswell, tywysog yr holl Fywgraftwyr, er nad oedd dda i ddim arall, yr hwn sydd ar bob cyfle yn dwyn y Dr. Johnson ymlaen yn ei berson ei hun, ac yn ein galluogi ninnau i wrandaw arno ef a'i gyfeillion yn ymddyddan â'u gtlydd. Yr un mor werthfawr genym ni fuasai cael desgrifiad manwl o ymddyddanion Mr. Evans, pe na bae ond am un diwr- nod—pa bryd y eododd y diwrnod hwnw—pa hyd y bu yn gwisgo am dano—beth oedd ei sylwadau wrth wisgo—pa sawl gwaithy bu ar ei liniau cyn dyfod o'r ystafell—pa ymddyddanion a fu rhyngddo ef a'r teulu ar foreu-fwyd—pa sylwadau a wnaeth wrth ddarllen y bennod, gwyddom ei fod yn gwneyd sylwadau, ond beth oeddynt?—at bwy, ac at ba amgylch- iadau yr oedd yn cyfeirio ar weddi—pa nodiadau a wnaeth ar y flbrdd am y tai, a'r teuluoedd oedd yn byw ynddynt—a ocdd ganddo lygad i weled anian yn y golygfeydd prydferth oedd yn ei aingylchu—pa fodd y pregeth- odd y diwrnod hwnw—pa beth a ddywedodd yn nhŷ y capel wrth William Dafydd y blaenor, ac wrth Mrs. J. yr hon oedd yn cadw y mis, a pha beth a ddywedasant hwythau yn ol wrtho yntau—pa ymddyddan rhyngddo â'r teulu lle yr oedd yn lletya y noswaith houo—pa beth a ddy- wedodd wrth y gwr ieuanc oedd yno newydd ddyfod adref o'r ysgol,.*. wrth y plant bach oedd yn dyfod i fewn yn wylaidd i ddywedyd eu haà- nodau. Nid oes dim yn rhy fach i'w adrodd am ddyn mawr. Pethau bychain sydd yn fíurfio nodweddiad, a phethau bychain sydd yn dangos nodweddiad. Ond er hyn i gyd, llyfr yw hwn o'r iawn ryw ; un na chyf- arfyddir â'i well bob dyiíd na phob blwyddyn ychwaith yn nosbarth y byw- gratfiadau Cymreig. Ol nad yw yn ateb yn berffaith i'r rheol a osodwyd i lawr yma, y mae yn debyg y gall yr awdur fentliyca geiriau Solon pan yn cyflwyno cyfreithiau newyddjon i'r Atheniaid, " Nid dyma y rhai goreu a allai fod, ond dyma y rhai goreu a allech chwi eu derbyn." Yr oedd yn rhaid cadw o fewn terfynau cyfyng rlmg i'r Ilyfr chwyddo i ormotl o faint, a thrwy hyny fyned mor ddrud fel na fedrai neu na fynai y Cymry mo i brynu. Yr unig fai yw ei fod yn rhy fyr i ddangos John Evans y pcth o<;dd. Ond pe gofynid i ni pa ranau o hono i'w gadael allan, er mwyn cael lle i'r hyn sydd yn awr yn ddifíygiol, byddai yn rhaid i ni gyfaddef fod hwn yn ofyniad nad ydym yn aìluog i'w ateb. Ilyd y cyrhaedda, y