Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

370 DAFYDD JONES, O GAIO. Ma.e llawn cymaint o wron-addoliaeth yn Nghymru ag sydd mewn un wlad arall yn y byd, ond nid ydyw ein eydwladwyr wedi cymeryd y drafferth o gofrestru dywediadau a gweithredoedd enwogion y Dywysogaeth. Ym- foddlonant gan mwyaf ar yn unig adrodd hanes eu buehedd a'u gwrhydri. Mae trysorau traddodiadol y Cymry ynghylch eu gwroniaid yn amrywiol a lliosog; ond, o herwydd eu hesgeulusdra gydag ysgrifenu, maent beunydd yn prinâu, ac, os na ddihunir mewn pryd, a y rhelyw sydd yn awr ar glawr yn fuan ar ddifancoll. Garw byth na fuasai rhyw un o ysbryd gwron-addolgar Boswell wedi diogelu mewnysgrifen ddywediadau a golyg- iadau dynion da a mawrion Cymru ! A phe buasai rhyw un cyfarwydd âg ysgrifenu llaw fer wedi dilyn prif bregethwyr y Dywysogaeth i'r gwahanol gyfarfodydd cyhoeddus, ac ysgrifenu yn llawn y pregethau campus a ar- ferent draddodi ar y cyfryw achlysuron, buasai yn ein meddiant drysorau anmhrisiadwy, yn gystal a digonedd o ddefnyddiau cymhwys er ein gall- uogi i ffurfio barn gywir am nerthoedd meddyliol yr hen lefarwyr. Ond collwyd, o eisieu rhywrai o'r fath, filoedd o sylwadau gwerthfawrocach na'r " aur coeth." Ychydig iawn o bregethwyr enwocaf Cymru sydd wedi bod yn yr arferiad o ysgrifenu eu pregethau yn llawn. Dim ond yr amlinell noeth a ysgrifenid gan y diweddar Mr. Williams o'r Wern. Mae lluoedd yn awr yn fyw a fedrant adrodd yn gywir, fel eu traddodwyd, ddarnau cyfain o'i bregethau ef, yn gystal ag eiddo eraill o'r prif bregethwyr a gyd- oesent âg ef; ond pa fodd y mae dyfod o hyd cyrhaedd iddynt sydd bwnc arall. Byddai yn wasanaeth anmhrisiadwy i achos crefydd a llênyddiaeth Cristionogol Cymru, pe byddai i ryw ŵr medrus gymeryd y gorchwyl mewn llaw o gasglu gweddillion pregethau, ynghyd â dywediadau dysg- awdwyr Cymru. Maent yn awr yn wasgaredig dros yr holl wlad, ac an- hawdd, heb dreulio llawer o amser, a myned i gryn drafferth, fyddai eu casglu ynghyd. Byddwn ni ein hunain bob amser yn defnyddio pob cyf- leusdra yn ein meddiant i holi hynafgwyr pob cymydogaeth yr ymwelwn â hi, ynghylch " yr hen amser gynt." Yn ystod yr hanner can' mlynedd diweddaf, claddwyd cannoedd o ddynion yn Nghymru ag y rhoddasem un swm rhesymol o fawr am gael treulio un diwrnod cyfan yn eu cyfeillach, i'r dyben o gyrhaedd gwybodaeth mewn perthynas i liaws o faterion ag y mae arnom syched didor am gael goleuni arnynt. Mae ychydig nifer fychan o hen bobl ddeallgar craffus idd eu cael yma a thraw ar hyd Gym- ru ; a defnyddiwn yr adeg bresennol er cymhell dynion ieuainc, ymofyngar am wybodaeth o bob math, i gymeryd eu hoffer ysgrifenu gyda hwy, er gosod i lawr ar bapyr o eneuau y tystion eu hunain hanes y cyfnewidiadau amryfath sydd wedi cymeryd Ue yn ystod eu tymmor hwy. Gallem yn awr enwi rhai personau ag sydd wedi marw er ys ond ychydig amser, ag y buasai yn hyfrydwch nid bychan i dreulio tair neu bedair hirnos auaf yn eu cymdeithas mewn rhyw hen amaethdy cynhes wrth dân mawn Cors Blaen Cothi, neu Goed pyllautywarch. Cynnygiodd y Parch. Henry Grif- fiths, Penaeth Coleg Aberhonddu, 5p. i ry w un am gymeryd y drafferth—