Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. Y SARPH BRES. AWDL AR T PEDWAR MESUR AR HUGAIN. GAN Y PARCH. DAVID JONES, TREBORTH. 0 ! 'r alaeth a'r mawr wylaw, Gan fyd drwg i'w ganfod draw ! Beth yw 'r odiaeth driniaeth drom, A'r trydar, ger tir Edom ? Tremiaf ar dorf yn tramwy, Mil, a chwe' ehan mil, a mwy: O fryd tuchanllyd a chas, Camenwent bob cymwynas; Achwyn llwyr, grwgnach yn llu, Heb achos, gan fawr bechu. Y grwgnach a'r mawr achwyn Dynai gura daniai gŵyn. m.—3. O'r diachos hir duchan, Daeth tostedd rhyfedd i'w rhan: Am eu drwg dan wg Duw Ner;. Ac]ofer yw eu cyfan. Wele 'r Por yn talu 'r pwyth Yn deilwng iawn i'w dylwyth ; Os methodd eu hesmwythyd A thoddi brynti eu bryd, I'w dwyn i deg adwaen Duw, A'i rinwedd uwch yr annuw, Ei roddion gwerthfawr iddynt, Grasol a gwyrthiol er gynt: Ond er hyn byw 'n druenus, Da Naf gyfrifid yn us; Yn lle mawl ar bennill mwyn, Oer ochi, a hir achwyn. Tra ar hyn troai y rhôd,— I'w troelli 'n merw trallod;