Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. UNOLIA.ETH DYNOLRYW. Y m\e dynoliaeth yn ffaith, ond y mae y dosharth hwnw o hóni sydd yn aníoddlawn i roddi derbyniad i dystiolaeth yr Ysgrythyrau, mewn ammheuaeth ac ansicrwydd mawr ynghylch ei dechreuad. Y mae deg can' miliwn, medd rhai, deuddeg can' miliwn, medd eraill, mwy na hyny, medd eraill, o ddynion o bob math, a inaint, a lliw, a llun, ar wyneby ddaear; ac o ba le y daethant? Nid oes un anhawsder i ben- derfynu o ba le y daeth y rhai sydd yn y byd yn awr. Plant ydynt oll i'r rhai oeddent yma o'u blaen, a phlant oeddynt hwy i'r rhai oeddent o'u blaen hwythau, ac felly yn ôl i'r pellderau sydd yn myned tu hwnt i " wawr hanesyddiaeth." Ond o ba le y daethant gyntaf oll? Dad- blygiad ydynt, medd rhai, o fodau eraill. Yr oeddent wedi bod yn rhywbeth arall cyn dyfod yn ddynion, ac yr oedd y rhywbeth arail hwnw wedi bod yn rhywbeth arall na hyny, ac íelly yn ôl eto i'r pell- derau sydd yn myned yoihellach fyth. Darfu i ddim ymddadblygu yn fyrdd o bethau difywyd, a darfu i'r myrdd hyny ymddadblygu yn bethau by w, ond heb feddu ond" ar y grâdd isaf o fy wyd ag y gellir dychymygu am dano. O'r pryd hwnw allan darfu iddynt, trwy ryw weithrediad o eiddo natur, ymwthio yn y blaen mewn gwahanol gyfeiriadau tuag at berffeithrwydd. Aeth un yn nghyfeiriad y ceffyl, gan gymeryd yr asyn ar ei ffordd, ac arall yn nghyfeiriad dyn, gan gymeryd yr epa yn ei ffordd yntau. Nid oes un saii i'r dychymyg hwn yn y nefoedd uchod nac ar y ddaear isod. Y mae ei ddysgawdwyr yn cydnabod hyny, ond y maent yn dywedyd wrthym y dichon fod sail iddo yn y dyfroedd sydd dan y ddaear. Nid oes un hanes mewn un cyfeiriad am neb o'r anghenfilod ag y maent yn sôn am danynt, yn y sefyllfa draws-symudol o'r naill grëadur i'r llall, ac nid yw holl ymchwiliadau daeareg wedi gallu dyfod o hyd i'r ôl lleiaf o'r fath bethau mewn un man. Ond y maent yn dywedyd wrthym nas gallwn hrofi nad oes olion o honynt yn y creigiau sydd yn ngwaelod y moroedd. Yr ydym gyda'r parod- rwydd mwyaf yn addef hyny. Y mae gwaelodion y moroedd yn diriog- aethau—pe byddai yn iawn eu galw yn diriogaethau hefyd—anadna- byddus i ni. Ar yr un pryd, yr ydym yn gofyn caniatâd i ddywedyd, 11 wrth fyned heibio," ei fod yn beth pur ddigrifol i seilio athrawiaeth ar yr anadnabyddus, ac i alw arnom i'w chredu am y dichon fod profion drosti yn gorphwys mewn rhyw fan nas gellir dyfod o hyd iddo yn oes oesoedd. Yr ydym yn ail ofyn y cwestiwn—0 ba le y mae dynion wedi dyfod ? Yr atebiad mwyaf cyffredinol a geir i'r gofyniad yw, mai crëadigaeth 1869-4. Íb