Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

h'- Y TRAETRODYDD. Y BIBL, ATHRONIAETH, A GWYDDONIAETH. Nid oes dim yn gwahaniaethu dyn oddiwrth yr anifail yn fwy na'r gallu sydd gan y blaenaf i wybod, a'r awydd sydd ynddo am wybod. Mor bell ag y gellir casglu, mae holl wybodaeth y crëadur direswm— os yw yn werth ei galw yn wybodaeth hefyd—yn gyfyngedigyn unig i'r hyn sydd yn cyffwrdd yn uniongyrchol â'i anghenion nnturiol ef ei hun; yr ychydig ddygwyddiadau hyny y mae yn oddefol yn dyfod i gyfarfyddiad â hwynt, ac ydynt yn taraw gyda mesur mwy neu lai o rym yn erbyn ei fodolaeth ef ei hunan, tra y mne lle i g^sglu fod pawb a phob peth aralî yn bethau hoìlol ddibwys iddo n chauddo: y byd a'i holl drigolion a'i holl drysorau, y nefoedd a'i holl luoedd a'i holl ogoniant, yn bethau nad yw yn pryderu yn eu cylch, nad oes ynddo awydd gwybod dim am danynt, ac y mar» yn amraheus a oes ganddo allu i wybod na meddwl dim gyda golwg arnynt. Mor fawr, mor annhraethol yw y gwahaniaeth rhwn_r y cn-iadur hwn sydd yn pori y gwellt, a'r llall sydd yn ei arwain i'r preseb, ac yn ei ollwng i'r dwfr! Yn hwn, yn y dyn, yr ydyin yn cnníod o'r dechreu ryw chwilfrydedd nas gellir ei foddloni; awyddfryd y mae ei borthi yn anorfod yn ei gryfhâu; newyn y rnae ei dòri yn sicr o'i ddyfnháji; nes, o'r diwedd, wedi ychwanegu un cufydd at y llall, byd at fyd, cyfundraeth at gyfun- draeth, gan ymgydnabyddu â hwynt, a'u troi yn wrthddrychau cyffredin ei sylw a'i astudiaeth, y ceir ef, gan ymchwydd angerddol yr uchelgais hwn sydd ynddo, yn cofìeidio y diderfyn, ac yn beiddio gwneyd y cais i lyncu anfeidroldeb ei hunan mewn buddugoliaeth. Gyda mân gwest- iynau difyrus y plentyn tair blwydd ynghylch ei deganau, y mae mynediad allan yr ysbryd hwn; y tu hwnt i eithafoedd y byd y mae ei amgylchiad ; ymhell uwchlaw y bydoedd draw a'r nefoedd fry y mae ei fraich estynedig yn cyfeirio ei býs ac yn arwain ei llinell; a'r swm eithaf y mae yn ymagor am dano ydyw, "Duw tragywyddoldeb, Crëawdwr cýrau y ddaear 1 " Y cyfryw ydyw y crëadur uchaf ar y blaned fechan hon, yr hon, yn wir, sydd bron y leiaf o'r holl blanedau; y fath yw arglwydd anifeiliaid y maes, uchder llwch v byd. Y fatli 1878.—1. a