Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. SANT PAUL. GAN ISLWTN. CYNNwTSIAJJ. Neretjs,* Cristìon ieuanc, yn sefyll ar làn y Tiber ar hwyr y dydd y dienyddiwyd Paul—Yn cyfarfod yno â'i athraw, yr oedranus Urbanust—Desgrifiad o Urbanus— Y mae yn dadgan ei deimladau ar ol Paul nes methu gau rym ei hiraeth—Nerëus yn ei gyfarch, gan ddeisyf arno barhâu, a rhoddi desgrifiad o hanes Faul a'i gymeriad— Yntau, ar ol ymsynied uwchben arddunedd y testun, yn dechreu. Wedi rhedeg dros hanes foreuol Saul yr Erlidiwr, desgrifia ei daith i Damascus, a'i dröedigaeth—Dyfnder a llymder ei argyhoeddiad yn ystod y tridiau y bu yn uhỳ Judas—Yr Arglwydd, trwy Ananias, yn esmwythâu aruo—Gogoniant y Groes yn dyfod i'w olwg—Ei gwbl ymgyfìwyniad i wasanaeth Ipsu—Ei drawsfudiad sydyn a hollol o Iuddewiaeth at Gristionogaeth—Ei benderfynolrwydd a'i ymlyni<id wrth ei argyhoeddiadau newyddion—Er mwyn ym^ymhwyso i'w Apostoliaeth, y mae yn ymneillduo i Arabia, ac yno yn efrydu yr Ysgrythyrau, ac yn byw mewn cymundeb llonydd â'r Arglwydd—Yn dychwelyd i Damaseus yn gadarn yn y ffydd, ac wedi ei lawn gymhwyso i'w swydd—Gorchfygu yr Iuddewon yno—Ei daith o Damascus i Jerusalem—Yn sefyll mewn synfyfyrdod wedi cyrhaedd y man lle y cyfarfuasai â'r Arglwydd gyntaf—Barnabas yn ei gyfìwyno i'r saint yn Jerusalem—Pedr ac yntan, liw nos, yn ymweled â Gethsemane a Chalfaria—Urbanus, wrth sôn am Galfaria, yn colli golwg ar Paul am enyd, ac yn ymollwng i synfyfyr—Nerëus yn dadgan ei ddymuniad yntau am weled y manau rhyfeddol hyn—Y sant oedranus yn ail ddechreu, gan ddesgrifio teithiau Paul, ac ehangder ei olygiadau ynghylch yr Efengyl fel cenadaeth at yr Holl Genhedloedd—Llwyddiant dirfawr ei weinidogaeth — Dyfodiad yr Efengyl i Ewrop—Tròedigaeth Lydia—Carchariad Paul a Silas, a'u rhyddhâd trwy ddaeargryn—Paul yn Athen—Fel Offeiriad mawr orìrymai y Cenhedloedd i Dduw—Ei ofal am yr eglwysi—Ei hyfder dros y gwirioneid—Ffelix— Ffestus—Y cyfuniad o resymeg a theimlad yn ei areithiau a'i lythyrau—Dyfnder ac ehangder ei dduwinyddiaeth—Y Saut yn cyfeirio at ei gipiad i'r drydedd nef, ac yn hiraethu ei fod wedi myned y tro hwn i beidio dychwelyd byth—Darluniad diwedd- glöawl o'i flinderau a'i erlidigaethau—Y Sant yn terfynu y desgrifìad ar dòriad y wawr. 1ÛM *Rhuf. xvi. 15. +Rhuf. xvi. 9. 1873.—2. t