Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHO.DYDD. YR ATHRAWIAETH O DRAGYWYDDOL GOSP. Everlasting Punishment and Modern Speculation. By the Rev. William Reid, Lothian Road Presbyterian Church, Edinburgh. Edinburgh: Oliphant & Oo. The Doctrine of Eternal Punishment ẁndicated against Recent AttacJcs. A Tractate. By the Rev. Professor Watts, D.D., Assembly College, Belfast. Belfast: Mullan. Life in Ghrist only. By Edward White. London: Clarke & Co. . Life and Death: a Reply to Gertain Statements of Mr. Spurgeon, Mr. Rogers, and Dr. Angus. By Edward White, Author of "Life in Christ only." London: Elliot Stoct The Perishing Soul: or tìie Scriptural Doctrine of the Destruction of Sinners, with a View of Ancient Jewish Opinion and Ghristian Belief during the First and Second Genturies. By J. M. Denniston, M.A. The Second Death and the Restitution of all Things, with some Preliminary Remarhs on the Nature and Inspiration of Holy Scripture. A Letter to a Friend. By Andrew Jukes. Yr ydym yn ofni fod rhyw feddalwch yn ysbryd ein hamseroedd sydd, i fesur mawr, yn andwyol i ŷni ein hargyhoeddiadau gyda golwg ar y cwestiynau mwyaf pwysig; ac sydd hefyd yn peri fod llawer, er, fe allai, yn ddiarwybod iddynt eu hunain, yn llithro i fath o anffydd- iaeth ymarferol, tra yn parhâu o fewn cylch o arferion a ffurfiwyd, o bosibl, gan grediniaeth fyw. Ry wffordd, yr ydys mewn llawer cylch wedi dyfod i gymeryd yn ganiatäol, fel y cwynai Esgob Butler am ei ddyddiau ef, nad ydyw y pethau sydd, os yn rhywbeth, o annhraethol ddyddordeb, yn meddu unrhyw hawl arbenig ar sylw y byd. A nid yn unig hyny, ond y mae gwneyd yn ddibris o honynt, ac yn e wedig meiddio eu gwadu, wedi dyfod yn ffordd esmwyth i ddynion n ad ydynt hynod ond am eu heiddilwch, i hòni iddynt eu hunain y cymeriad o annibyniaeth a glewder fel meddylwyr cryfion a gwreiddiol. Mae yn ddîau mai yr achos mawr o hyn oll ydyw anghrefydd ein hamseroedd, 1875—2. i