Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. EIN GWARANTAU. PAPYR MEWN OYFARFOD 0 WEINIDOGION. Oes neu ddwy yn oì, pan oedd dadleuon duwinyddol wedi blaenllymu meddwl ein cydwladwyr i íywiogrwydd neillduol, a'r hyn a deimlent í'el zel dros y gwirionedd yn eu meddiannu yn gymaint fel yr edrychent ar wahaniaethau cymhariaethol ddibwys fel gwadiad ar wirioneddau hanfodol, ac mai prin y gallai gwýr da, weithiau, deimlo yn dawel hyd yn nod am iachawdwriaeth eu gilydd, fe edrychasid gyda theimladau dyeithr ar gyfarfyddiad fel hwn, Ue y mae rhai sydd wedi ymgymeryd à chyfrifoldeb dysgawdwyr ymhlith y gwahanol gyfundebau crefyddol yn cyfarfod fel brodyr, ac yn cael y fraint o gysure ac adeiladu y naill y Uall "trwy ffydd oin gilydd." Yr ydym wedi cael cymaint o ddaioni eisoes trwy ein cynnulliadau hyn fel ag i'w wneuthur yn werth ein hymdrech i'w parhâu. Pa un bynag ai mewn defosiwn, ai mewn cyd- yraddyddan brawdol am faich ein gofal, ai mewn sylw ar y crynhòadau rhagorol a gawsom o rai o'r llyfrau mwyaf gwerthfawr sydd yn cael eu cyhoeddi, ai mewn trafodaeth ar faterion neillduol y barnem yn addas alw sylw ein gilydd atynt, y mae eiu cyfarfodydd wedi bod yn hyfryd ac yn dra adeiladol. Wele, fod brodyr yn byw 'nghyd, Mor dda, mor hyfryd ydoedd ! Tobyg i olew o fawr werth Mor brydferth ar y gwisgoedd. Y mae y meithriniad i*n brawdgarwch, ynddo ei hanan, o werth mawr; ond heblaw hyny, yr ydym wedi cael cyfîeusdra i gyfoethogi a chryfhâu meddyliau ein gilydd gyda golwg ar ein hefrydiau pwysig; a mwy fytb, yr ydym wedi derbyn trwyddynt ymgeledd i'n teiinladau crefyddol, a chryfhád i'n hymgysegriad i waith ein bywyd. Fe ofynid gynt, " Ai byth y difa y cleddyf? " Gallwn ninnau ofyn, A ydyw y teimladau y rhoddwyd bôd iddynt gan gwerylon ein tadau, a hyny gau mwyaí ar gwestiynau damcaniaethol, i beri i'w plant, o genedlaeth i geoedl«eth,