Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. DARLITHIAU Y PARCH. D. CHARLES DAVIES, M.A., AR GRISTIONOGAETH. AIL GYFRES. III. PERTHYNAS CRISTIONOGAETH A NATUR* II. Un rheswm am y gwrthwynebrwydd ymddangosiadol rhwng golygiad- au Duwinyddion a Gwyddonwyr yw, fod y safieoedd oddiar ba rai y maent yn edrych, nid yn unig yn wahanol, ond hefyd yn y pellder eithaf oddiwrth eu gilydd. Safie y duwinydd yw meddwl anfeidrol; safle y gwyddon yw mater difywyd. Nis gellir dychymygu, ie, ac nid yw yn bosibl fod, pellder mwy. Ac er mai ar yr un pethau yr edrych- ir, o angenrheidrwydd y mae yr olwg a geir arnynt yn hollol wahanol, ie, y mwyaf gwahanol ag sydd yn bosibl. Bwriwn fod dyffryn yn gor- wedd rhwng dau fryn sydd yn ei derfynu. Fe fyddai yr olygfa arno yn wahanol iawn o'r bryniau terfynol. Os byddai yn y dyfFryn dai, gwelid eu gwyneb o'r naill a'u cefn o'r lla.ll. Os rhedai afon trwyddo fe fyddai rhanau gweledig o honi o'r naill yn anweledig o'r llall. Os byddai yr afon yn ddolenog, gwelid ei bod yn un o'r naill, ond haws a fyddai credu fod yno ddwy afon wrth edrych arni o'r llall. Pe yr elai un ar y ddau fryn o wahanol gyfeiriadau, nid hawdd a fyddai ganddo gredu mai yr un dyffryn a orweddai o'i flaen. Yn y pwnc dan ein sylw yn bresennol, y mae yr oll ag sydd yn bod, yn gorwedd rhwng mater difywyd a meddwl anfeidrol. Dengys ein rheswm i ni fod golwg wahanol iawn ar bobpeth o'r ddau safle derfynol yn sicr ac yn angen- rheidiol. Yn y canol rhwng y ddau y mae dyn yn sefyll; a'r prif wrthddrych i edrych arno yw dyn ei hun. Nyni yw y rhai sydd i edrych arnom ein hunain o safleoedd mor wahanol ac mor bell oddi- wrth eu gilydd. Pan y gesyd dyn ei hun ar y naill safle gyda Job a * Yn y ddarlith hon rhoddir eglurhâd pellach trwy gymhorth esiamplau ar yr egwydd- orion a osodwyd i lawr yn y rhan gyntaf o'r ddarlith. (Gweler Y Thaethodydd, Ebrill, 1886.)-E. Yincent Evans. 1886 2 b