Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

JEEEMI OWEN. Yr ymofyniad a gyfyd yn meddyliau y rhan fwyaf o'n darllenwyr wrth weled testun yr ysgrif hon, ydyw—"Jeremi Owen ! Pwy yw hwnw î Ni chlywsom ni erioed son am dano." Gall rhai dybied mai fFugchwedl yr ydym yn myned i'w hanrhegu â hi, a " Jeremi Owen" yn arwr iddi, fel pe dywedid " Rhys Lewis," gan ychwanegu fel ol- feddwl—" Y Traethodydd wedi myned yn eurgrawn chwedlau ! fel y mae yr oes yn dirywio !" Gall fod amryw eraill yn tybied, tra heb ammeu na bu dyn o'r enw hwn yn byw rywbryd yn rhywle, y rhaid nad oedd yn teilyngu ysgrif arno yn y Traethodydd, neu y buasent hwy wedi clywed rhyw son am dano. Ond dyna y testun, bid a fyno; ac ar y testun hwn, ei gysylltiadau a'i amserau, y bwriadwn aros am ychydig, gan obeithio y daw y darllenydd gyda ni; er nad yw y gŵr yn ddigon enwog i'w enw ymddangos mewn un " Geiriadur Bywgraff- yddol" a welsom ni, ac mai yn ofer y chwilir am dano yn yr Eminent JVelshmen, " Enwogion Cymru," a " Cymru, yn Hanesyddol, Parthedigol, a BywgrafFyddol." Ofnwn am y rheswm hwn na ddaw y darllenydd coeth gyda ni ddim pellach, ond y try at erthygl ar "Y Llyfr Coch o Hergest," "Cywydd Anghyhoeddedig Huw Bangor," " Darganfyddiad dwsin o gyfansoddiadau barddonol Elis y Cowper nad ydynt i'w cael mewn un restr o'i weithiau," neu y cyffelyb. Pe ein testun fuasai " Aneurin Gwawdrydd," neu " Gruffydd ab Arthur," teimlasem hyder cryf y dilynid ni yn amyneddgar, gan nad beth fuasai y budd. Ond rhag i'r darllenydd gefnu arnom am fod ein testun yn ẃr anhysbys a dinôd, gofynwn iddo gymeryd " Geiriadur " Dr. W. O. Pughe (yr argraffiad cyntaf sydd genym ni), a sylwi yn fanwl ar y dyfyniadau a ddyry efe o wahanol awdwyr i egluro ystyr a defnyddiad geiriau ; ond iddo wneyd hyny, fe gyferfydd mor fuan a'r A, ac yn fynych o hyny hyd yr Y, â'r enw " Jer. Owain," neu " Ier. Owain;" a bydded hysbys iddo mai " Jeremi Owen" oedd hwnw. Ac ystyriwn fod awdwr y cafodd Dr. Pughe gynifer a hanner cant o frawddegau ganddo i egluro ei " Eiriadur," yn llawn mor deilwng o fod ei enw ar gof a chadw yn ein " Geiriaduron Bywgraffyddol" ag ydyw "Ieuan ab Hwlcyn," "Sion Caerau Hen," ynghyd a llu o Ieuaniaid a Sioniaid eraill. Ni feiwn am eu dodi hwy i mewn, ond am gau Jeremi Owen allan ; ei fod yn haeddu congl o'r Traethodydd pe am ond yr un ffaith hon; a'i fod yn un y bydd y darllenydd ar ei fantais o ddyfod i gydnabyddiaeth âg ef. Ofnwn fod Dr. Pughe wedi myned i eithafion edmygedd o hono, gan ymgydnabyddu mwy âg ef nag â'i Fibl, pan y gwelwn ef yn priodoli i " Jer. Owain " ddwy adnod o'r Bibl (o leiaf), y rhai a ganfyddodd yn ei waith, ac y gallai na wyddai mai adnodau