Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

JEREMI OWEN. ii. Yn ein hysgrif flaenorol cyfeiriasom at Ymwrthodiad Eglwys Henllan â Jeremi Owen fel ei gweinidog. Cymerodd hyn le tua'r flwyddyn 1715, ar ol y tymmor byr o bum' mlynedd o'i ofal gweinidog- aethol drosti. Yn anffodus y mae lleni tywyllwch yn gorchuddio yr achos o'i ymadawiad o Henllan, fel llawer o helyntion eraill ei oes. Hyd y gwyddom ni, nid oes dim goleuni i'w gael ar hyn ond a gawn ganddo ef ei hun. Y mae pob cyfeiriad at ei ymadawiad a welsom ni, yn seiliedig ar yr hyn a ysgrifenwyd ganddo yn ei lyfrau argraffedig. Y peth goreu, gan hyny, ydyw cyfieu dyfyniadau o'r rhai hyny ger bron y darllenydd. Ymddengys y cyhuddai Mr. Maurice yr Eglwys yn Henllan o ddau beth yr edrychai arnynt fel achosion ymrwygiad yr Eglwys yn Rhydyceisiaid oddiwrthi, sef y diffyg o " Burdeb Athraw- iaeth" ac o "Fanyldra Dysgyblaeth." Gwelsom pa fodd y cyfarfyddai ef â'r cyhuddiad cyntaf o'r ddau yn ein hysgrif flaenorol; ac yn ei ateb i'r cyhuddiad arall y mae yn dwyn ymddygiad Eglwys Henllan ato ef fel prawf o'u gofal am gadw y Ddysgyblaeth i fyny ; fod eu zel dros burdeb yn hyn yn gyfryw fel yr ymwrthodent, nid âg aelodau cyfFredin yn unig, ond hyd yn nod â'u gweinidog, pan y gwelent ei fod yn cyfeiliorni mewn buchedd. Rhoddwn yma yr hanes a ddyry efe yn gyfiawn, yn ei ddullwedd ei hun, heb newid ond yn unig y llythyraeth. Nid oes achos gwadu, nas gall fod yr Eglwysi puraf yn derbyn, a hyny yn ddi- feius, rai aelodau ar eu profíes deg a chredadwy, a'r na byddont wedi hyny yn ateb i'w dysgwyliad. Nid oes ammeu na ddygwyddodd y fath achos a hyn yn Henllan ar amserau, yn gystadl ag mewn Eglwysi eraill. A phan yw aelodau yn syrthio, fo ddylid eu trin hwynt yn dyner, a chyd â hirymaros, gan obeithio y gellir eu hadferu o fagl y diafol. Y mae yn bosibl i bobl grefyddol fod yn rhy- dwym a byrbwyll, i yrru pethau yn y blaen bendramwnwgl, ar ffrwst, yn gystadl ag y gallont ohirio, ymlwfrhau, ac oedi yu rhy hir. Yr oedd Eglwys Henllan yn hwylio ymlaen deg a theg, ac yn cadw y ffordd ganolig rhwng dau ormod. Cyhyd ag y bum i ymhhth y bobí gall a sobr hyny, myfi a wn eu bod hwy yn troi heibio, ac yn gwrthod rhoddi lle i eistedd wrth fwrdd yr Arglwydd, i'r ychydig ddynion- ach anfîodiog a'r nid oeddynt yn cadw eu gwisgoedd yn lân, na hwythau eu hunain yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd. Pan y delai yn amlwg, yn marn cariad, nad oedd eu brychau hwynt yn frychau plant Duw, hwy a roddent rybudd dyladwy iddynt, oa parhaent yn eu ffyrdd annuwiol, hwynthwy yn un ac yn gytun a'u dodeftt tan gerydd eglwysig. Ac yn awr rhaid yw i mi adrodd fy achos i fy hunan tan y pen hwn (yr hyn sydd yn llenwi fy nghalon i â gofìd a llawenydd ynghymysg), fel ag y byddo i mi osod dim anrhydedd a'r a allwyf, ar yr Egìwys hono ag sydd yn haeddu hyny cystadl oddi ar fy llaw i; ac fel y byddo i mi hefyd symud ymaith bob achlysur, hyd ag y gellir, oddiar fîordd y rhai sydd yn chwanog i gablu. Ac yma 1. Yr wyf yn bendithio Duw â'm holl galon am yr oedfa hon, yr hon wyf yn ei chofleido yn llawen i ddwyn tystiolaeth yn erbyn fy hunan, yn mherthynas i'r pryd yr oeddwn yn ddrych i Dduw, i angylion, ac i ddynion, wedi fy nhraddodi, âros amser, i gyfion farn Duw, i bla a than awdurdod meddwì ofer, a chalon galed. Nid wyf am guddio'r peth rhag y byd, ond yr wyf, o deg a bodd, yn agoryd fy hunan i'r gwarth cyhoeddus hwn; gan rybuddio pob dyn i gymeryd gofal na chymeront eu harwain gan nerth yr esampl a roddais i iddynt, a chan daer weddio (megys ag y cynnorthwywyd fi gan râd Duw i wneuthur yn awr dros rai