Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

0 /1.^- — Y TRAETHODYDD. Y DDEDDF ADDYSG GANOLRADDOL GYMREIG, lö89. Y MAE y profion o ddyfnder y deffroad cenedlaethol yn Nghymru yn cynnyddu yn barhaus. Nid yn unig gellir edrych ar gaffaeliad y Ddeddf hon fel effaith y deffroad hwnw, ond y mae y dyddordeb a gymerir ynddi, wedi ei chael, yn brawf ychwanegol nad ydyw yr adfywiad wedi treulio ei nerth allan, ond ei fod yn myned ymlaen ac yn ychwanegu cryfder. Ar ol ychydig seibiant wedi y cyiahyrfiadau parhaus i'w chael, ac heb allu ar y pryd sylweddoli natur ac eangder ei chynnwys, gyda rhyw raddau o ammheuaeth y gallasai nemawr ddaioni gwirioneddol ddeilliaw o fesur ag oedd, er wedi gwreiddio gyda'r blaid Ryddfrydig, ar ol hyny wedi ei fabwysiadu a'i glytio gan Weinyddiaeth Doryaidd,—y mae y wlad erbyn hyn yn ymddeffro drachefn i'r ymgais i wneuthur y goreu o'r manteision a gynnygir o dan ei ddarpariaethau. Ar yr adeg yr ydym yn ysgrifenu nid oes odid Sir nad ydyw yn cymeryd dyddordeb teilwng yn y Ddeddf. Ceir Ueoedd newyddion yn parotoi i apelio am gael ysgol ganolraddol, ac yn casglu addewidion o danysgrifiadau at biynu tir a chodi adeilad heb bwyso ar y cyllid cyffredinol, os llwyddir i'w chael; a gwelir hen leoedd yn cymeryd mesurau er diogelu yr ysgolion grammadegol sydd ganddynt eisoes i barhau gyda hwynt o dan y trefniant newydd, gyda'r gwelliantau dysgwyliedig yn eu llywodraethiad a'u haddysg; gwneir dyfaliadau pwy a osodir gan y Byrddau Sirol ar y naill law, a chan y Llywodraeth ar y llaw arall, i ffurfio y Pwyllgor Addysg Unedig ymhob Sir; gwneir awgrymiadau lhosog pa fodd i wneuthur y defnydd goreu o'r gwaddoliadau addysgol ac elusenol er mwyn cyfadd- asu y Ddeddf hyd yr eithaf at anghenion y wlad, a pha fodd i ddiogelu nifer rhesymol o ysgoloriaethauer mwyn galluogi bechgyn tlodion, ond talentog, i gael rhan o'r addysg a ddarperir, i'w cymhwyso i ennill safleoedd o ddefnyddioldeb a llwyddiant, yr hyn yw hawlfraint pob Prydeiniwr. Wedi cael y Ddeddf hon ar lyfr y wladwriaeth, ni ddylem anghofio Uafur ac ymroddiad y dynion hyny a fuont yn brif offerynau i'w sicrhau i'r genedl. Cyn manylu ar ei darpariaethau, bydd yn addysg- iadol i ni adolygu y camrau a arweiniasant iddi, a chyferbynu yr hyn a fwriadwyd iddi fod â'r hyn ydyw, er mwyn cael golwg deg ar ei 1890. a .■