Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD. CREADIGAETH YNTE YMDDADBLYGIAD ? Y ddaear yr ydym yn preswylio arni—o ba le j daeth ? A fu iddi ddechreuad o gwbl ? Ai ynte diddecbreu a thragwyddol ydyw ? Tn y ffurf sydd arni yn bresennol nid oes diin sydd sicrach nag iddi ddechreu bod. Arweinia gwyddon- iaeth ni yn ôl at yr adeg y ffurfiwyd y creigiau ac y sylfaenwyd y mynyddoedd. "Gwyddom," medd Dr. Flint, "hanes ffurfiad yr haenau glo yn nghrombil- oedd y ddaear yn well nag y gwyddom hanes dechreuad y Feudal System." Yr unig beth y mae yn bosibl ei haeru ydyw na bu dechreuad i'r elfenau sydd yn cyfansoddi y ddaear. Ymhob ffurf adnabyddus ar fater i ni yn awr, nid oes yr amheuaeth lleiaf na bu dechreuad iddo ; a'r unig gwestiwn y gellir am foment ganiatan ei fod yn agored ydyw posibürwydd bodolaeth ddiddechreu iddo mewn rhyw ffurf elfenol a chyntefìg. Dichon y cawn ddychwelyd at yr ymofyniad hwn cyn terfyn ein herthygl; ein gorchwyl cyntaf ydyw ceisio ateb cwestiwn arall,— A chaniatau y bu i'r byd ddechreuad, pa fodd y rhoddir cyfrif am dano yn y ffurf sydd arno yn awr ? Ai trwy greadigaeth ynte ymddadblygiad y daeth i fod yr hyn ydyw ? Ond dylid cydnabod hwyrach cyn cychwyn ar ein hymchwiliad, nad ydyw damcaniaeth ymddadblygiad, yn y ffurf fwyaf eithafol arni, yn proffesu taflu unrhyw oleuni ar ddechreuad mater na grym, neu force. Yn hytrach cymer eu bodolaeth yn ganiataol. Heb y rhai hyn ni ddichon ymddadblygiad wneuthur dim. Ond y mae ar yr un pryd yn honni bod yn eglurhad boddlonol ar fodol- aeth pob peth. Y lle oedd i'r syniad am greadigaeth amser yn ol ym medd- yliau dynion, a honnir yn awr i ymddadblygiad. "Wrth sylwi pa fodd bynag ar y ddamcaniaeth, gwelir nad yw yn myned mor bell yn ôl o lawer â'r syniad am greadigaeth, ac mai y syniad hwn yn unig sydd yn rhoddi cyfrif am ddyfodiad i fodolaeth yr hyn y cyfeiria ymddadblygiad atynt fel elfenau cyntefìg a dechreuol. " Awgryma y penawd—"Creadigaeth ynte ymddadblygiad ?"—y rhaid i ni f wrw ein coelbren gyda'r naill neu y llall, ac nad yw yn bosibl glynu wrth y syniad am greadigaeth heb ymwrthod â damcaniaeth ymddadblygiad, neu dderbyn damcaniaeth ymddadblygiad heb droi ein cefnau ar y syniad am gread- igaeth. Ac felly y dysgir ni gan lawer o Ymddadblygwyr. Ofer, meddant, ydyw ceisio edrych ar ymddadblygiad fel y dull trwy ba un y gweithiai y Creawdwr. Os ydyw damcaniaeth ymddadblygiad yn wirionedd o gwbl, rhaid ymwrthod yn hollol ac am byth â'r syniad o greadigaeth. Cymerer y difyniad canlynol o lyfr gan awdwr Americanaidd a dynnodd gryn sylw yn y wlad hon yn ddiweddar:— Nì all y ddwy ddamcaniaeth ddyfod i ymgytundeb, fel na allant ymgysoni. Coll amser fyddai ceisio eu gorf odi i wneyd hyny. I'r gwrthwyneb y maent yn gwbl groes i'w gìlydd. Haera un.fod cyfanfyd mater, gan gynnwys meddwl, wedi ei greu o ddim gan dduwdod a hanfodai yn flaenorol, ac o'r rhywbeth crëedig hwnnw ei fod wedi