Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y PARCH. JOHN HUGHES, PONTROBERT. 365 teilwng o hono, ond yr oedd aelod o'i deulu ef ei hun yn taflu rhwystrau ar y ffordd. Deallwyd yn fuan ei fod allan o'r cwestiwn i neb ysgrifennu cofìant tra byddai ei ferch Jane yn fyw. Ymhen ysbaid ar ol ei marwolaeth hi—rhyw wyth neu ddeng mlynedd yn ol—y cafwyd meddiant gyntaf ar bapurau ei thad. Mewn ffordd hollol ddamweiniol daethpwyd i wybod eu bod yng nghadwraeth y diweddar Barch. W. Prydderch, Nantgaredig, ac anfonwyd am danynt. Er y pryd hynny mae ei holl bapurau dan fy ngofal i, yn cael eu cadw dros y Cyfarfod Misol. Penodwyd y diweddar Barch. E. Davies, Amwythig, a minnau i wneuthur ymchwiliad iddynt, ac edrych pa beth a allesid wneud. Ein barn ar y pryd ydoedd fod popeth o'i waith oedd mewn ffurf i'w gyhoeddi, wedi ei gyhoeddi eisoes. Hyd y gallesid gweled ar y pryd, nid ydoedd wedi ysgrifennu dim am dano ei hun yn y ffurf o Hunan-hanes na Dyddlyfr. Ond yn ddiweddar, wrth chwilio yn fanylach, cafwyd ysgrif yn cynnwys ychydig o'i hanes boreuol, a Dyddlyfr am un flwyddyn, sef y flwyddyn 1816—pedair blynedd ar ddeg ar ol iddo ddechreu pregethu, a dwy flynedd ar ol ei neillduad i'r holl waith. Tn niffyg dim byd gwell a chyflawnach, bwriadwn anrhegu darllenwyr y Thaethod- ydd â'r Hunan-hanes ac â darnau detholedig o'r Dyddlyfr, gan wneud ychydig nodiadau arnynt fel yr eir yn mlaen. Fel hyn y dechreua yr ysgrif:— Hanes bywyd John Hughes, Pontrobert ap 01iver, yn Swydd Drefaldwyn, wedi ei ysgrifennu ganddo ef ei hun. Myfi a aned Chwefror 22, 1775, o rieni tlodion. Bu farw fy nhad pan nad oeddwn ond saith oed, ac nid oedd gan fy mam nemawr ond ei llafur i'm magu i a'm brawd oedd ieuangach. Cefais beth ysgol hynod o wael. Dysgais ddarllen Saesneg heb ddeall fliTn o hono, aphan ddysgais ddarllen Cymraeg, ni wnes sylw o'r Saesneg am lawer blwyddyn. Céfais fy nwyn i fyny yn hollol amddifad o addysg a moddion gwybodaeth grefyddol. Er hynny bu rhyw ymrysoniadau ar fy meddwl er pan wyf yn cofìo; ond nid rH-m i'm hatal rhag byw yn annuwiol hyd haf 1796, pan glywais Thomas Jones, Llanwnnog, yn llefaru ar y geiriau, "Dal yr hyn sydd genyt fel na ddygo neb dy goron di." Cafodd y bregeth hon effaith ddwys ar fy meddwl. Gwelais nad oedd gennyf fì ddim oedd yn werth ei ddal. Glynais wrth wrando, a goleuwyd fl yn raddol am fy nghyflwr colledig, ac hefyd yn raddol i fesur o adnabyddiaeth o Grist, a derbyniwyd fi yn aelod o Gym- deithas y Trefnyddion Calfinaidd cynulledig yn Penllys, ym mhlwyf Llanfihangel, yr haf crybwylledig uchod. Bu tywydd mawr ar fy meddwl ynghylch yr Athrawiaeth o Etholedigaeth; ond gorchfygodd yr Arglwydd fi a'i Air i dawelwch cymodlon a hi, pan oleuwyd fy meddwl am gyfrifiad o bechod Adda i'w had fel deiliaid ei gyfamod toredig. Gwelais fy nghyflwr mewn iselder dirfawr, a gwelais radd adnewyddol o ogoniant trefn Duw i gyfiawnhau pechadur trwy gyfrifiad o gyfiawnder Crist i'r rhai a gredo. Nid ydyw, fel y gwelir, yn enwi y tŷ na'r plwyf y ganwyd ef ynddynt; ond nid oes amheuaeth nad mewn ty annedd bychan o'r enw Penyfìgin, plwyf Llan- fìhangel yng Ngwynfa, y cymerodd yr amgylchiad pwysig le. Y "brawd ieuangach" y cyfeiria ato ydoedd Morris Hughes, a fu am flynyddoedd yn weinidog cymeradwy gyda'r Annibynwyr. Saif Penyfìgin tua milldir i'r cyfeir- iad gogleddol oddiwrth Eglwys Llanfìhangel, a thua thair müldir i'r un cyfeir- iad o Benllys. Diau i wrthrych ein hysgrif dreulio rhai blynyddoedd yn gwas- anaethu gydag amaethwyr y gymydogaeth; ond rywbryd cyn bod yn ugain oed, aeth i ddysgu gwáîth gwehydd, yr hyn oedd yn gelfyddyd gyffredin yn y parth hwn o'r wlad y pryd hynny. John Hughes, neu Ioan ap Hugh, Gwehydd, Pontrobert ap 01iver, y geilw ei hun yn fynnych yn ei bapurau. Mewn ty ar ffarm Pendugwm, gyda thad y Parch. John Davies, y cenhadwr, y dysgodd y gelfyddyd o weu. Hyn, mae'n fwy na thebyg, fu yn foddion i'w ddwyn i gysylltiad â'r achos Methodistaidd ymMhenllys, ac a roddodd gychwyn i gyfeül- ach faith a chyson a fu rhyngddo a chenhadwr enwog Otaheite. Ato ef y byddai y Parch. John Davies yn fwyaf cyffredin yn anfon ei lythyrau. Y mae 33 o'r llythyrau hyn, yn llawysgrif brydferth John Davies, ymysg papurau John Hughes heddyw. Cyhoeddwyd yr oll o honynt, dro ar ol tro, yn y Drysorfa a P3