Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y TRAETHODYDD, ELIAS AC ELISEUS: NEU OLYNIAETH SICR Y PROFFWYDL JPregeth a Draddodwyd yng Nghapel Fitzcìarence Street, nos Saboth, Awst Ofed, ar yr achlysur o faricolaeth y Parch. Owex Thomas, D.D., GAN Y PARCH. JOHN' HUGHES, M.A. Elias : Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymeryd oddi wrthyt Eliseus: Bydded gan hynny atolwg, ddau parth o'th ysbryd di arnaf fi. Elias : Gofynaist beth anhawdd ; os gweli fi wrth fy nghymeryd oddi wrthyt, fe fydd i ti felly; ac onide, ni bydd. 2 Bren. ii., 9, 10, Gwr anhawdd cael olynydd teilwng iddo oedd Eiias y Thesbiad. Felly yn ddiau y tybiai meibion y proffwydi, ac felly hefyd y tybiai efe ei hun. " Gofynaist beth anhawdd," meddai wrth Eliseus mab Saphat, er ei fod ef wedi ei nodi allan i'r olyniaeth gan Dduw. Ac yn ddiau yr oedd Elias yn wr tra hynod. Efe ydyw yr emvocaf ymysg proffwydi yr Hen Destament; ac y mae yn sicr ei fod yn un o'r cymeriadau hynotaf mewn hanes. Ychydig ddywedir am dano yn yr Ysgiythyrau; ond y mae ei weithredoedd a'i weinidogaeth wedi nodi ei gymeriad mor eglur, ac wedi tafiu delw y gwr mor oleu ar ddalennau y Beibl, fel nad oes yr un o'r proffwydi yn cael ei adnabod cystal. Ni lwyddodd neb erioed i daflu ei ddelw ar hanes cenedl mor berffaith ac mor ddiamwys. Gwr ydoedd yn llawn o natur ac o Dduw; cadarn, beiddgar, penderfynol; yn machio fel mellten yn awyrgylch y wladwriaeth, ac pi disgyn yn ddiatreg ar lwybrau brenhinoedd annuwiol fel taranfollt; yn ysgwyd gwlad, yn brawychu llysoedd, ac yn ddychryn i broffwydi gau. Yr ydoedd jn ddiwygiwr o'r dosbarth blaenaf, yn arwr o'r iawn ryw; un o'r cynier- iadau hynny sydd yn creu cyfnodau y byd, ac yn gwneyd eu hanes. Efe oedd arwr-broffwyd yr Iuddewon; gwnaeth argraff arhosol ar feddwl a dychymyg y bobl, ac yr oedd ynddynt ddisgwyliad parhaus am ei ddychweliad sydyn atynt i adfer pob peth, fel rhagflaenor y Tywysog a ddisgwylient i'w gwaredu oddiwrth eu gormeswyr. Nid rhyfedd gan hynny oedd y gair a ddywedodd wrth ei ddisgybl cyn ei symudiad: " Gofynaist beth anhaAvdd.'' Yr oedd yn anhawdd mewn gwirionedd. Ac eto yr oeddyny disgyblymlyngar, mwjm, tawe1, elfennau ardderchog yn gorwedd yn gudd yn y dyfnder llonydd, nad óedd Elias na'r byd wedi eu darganfod; elfennau proffwyd o'r dosbarth blaenaf, cwbl gyfaddas i wisgo mantell Elias ac i ddwyn ei waith ymlaen. Er i symudiad Elias gymeryd lle mewn adeg nad oedd yn hawdd ei hepgor, pan oedd ei waith ar ei hanner, a'r elfennau paganaidd v daeth Eiias i mewn i'w gwrthsefyll heb eu llwyr darostwng, eto i gyd ni chafodd y wladwriaeth na'r eglwys ddim colled; canys yr oedd Duw wedi nodi allan, ac wedi donio yn helaeth broffwyd i gludo y fantell, ac