Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LIVELlPOOL a'r gaethfasnach. 107 iad â'r gaethfasnach. Ond yr wyf fi yn dweyd fod hyn yn codi oddiar anwybodaeth, ac yr wyf yn honni nad oes yn un parth o'r deyrnas ddynion mwy annibynnol, yn raeddu mwy o rinweddau cyhoeddus a theilyngdod personol, na masnachwyr Liverpool. Mae y fasnach âg Affrica yn fasnach y genedl, yn fasnach ag oedd hyd yn ddiweddar yn cael ei chymeradwyo gan y Senedd, ac wedi parhau yn hir o dan nawddy Llywodraeth." Prin yr elem ni, yn y dyddiau hyn, mor bell mewn gwyngalchu y mar- siandwyr hyn ag y gallem ddefnyddio yr holl eiriau uchod am danynt. Ond y mae y geiriau yn dangos fel yr oedd un o wrthwynebwyr mwyaf eiddgar eu masnach yn gallu siarad mewn perthynas iddynt Dyma deimlad corfF y bobl ar y pryd yn ddiau. Pan sefydlwyd y Gymdeithas er diddymu y Fasnach, ni cheid yn Liverpool, ymysg holl fasnachwyr a gwŷr cyfoethog y dref, ond chwech o danysgrifwyr, ac yr oedd William Éoscoe yn un, a dau o deulu Rathbone yn ddau, o'r chwech. Pan ysgrifennodd Roscoe ei draethawd, yn 1787, yn eibyn y Gaethfasn:ich, fe ysgrifennodd y Parch. Raymond Harris, Jesuit Ysbaenaidd, ond un o waed Seisnig, atebiad iddo, o dan y teitl hynod, " Yrachwiliadau Ysgrythyrol igyfreithlondeb y Gaethfasnach, yn dangos ei bod yn gyson âg egwyddorion crefydd naturiol a datguddiedig, fel y gosodir hwynt allan yn Ysgrythyrau Sanctaidd Gair Duw." Pleidleisiodd y Cyngor Trefol y swm o gan puut i'r gŵr parchedig hwn am ei " Ymchwiliadau Ysgrythyrol." Ac yr oedd newyddiaduron y dref yn unfrydol bron yn pleidio y fasnach. Yr oedd cortf y bobl heb agor eu llygaid at felldith a drygioni y fasnach, fel y mae corff pobl y wlad hou yn awr, o ran hynny, at fasnach arall llawn mor, os uad mwy, drygionus sydd eto yn ffynnu yn ein mysg. Meddylier am gysylltiad yr enwog a'r duwiol John Newton â'r gaeth- fasnach ! Mae Mr. Gomer Williaras yn rhoi pennod faith o hanes y gŵr hynod hwn, ac y mae yn llawn o addysg fuddiol. Rhoddwn fras- olwg ar ei yrfa. Ganwyd ef yn 1725. Capten llong oedd ei dad, a dechreuodd fyned ar y môr gyda'i dad pan yn bur ieuanc. Pan yn 17 oed, cynhygiwyd ei ddanfon mewn llong gan farsiandwr o Liverpool i Jamaica, ond dihangodd y bachgen ymaith i Kent, asyrthiodd mewn cariad â geneth bedair ar ddeg oed o'r enw Mary Catlett. Ar ol hynny syrthiodd i ddwylaw y treisdorf, a chafodd ei hun ar fwrdd llong rhyfel ; trôdd allau yn fachgen anfoesol ac anffyddol. Ceisiodd ddianc, daliwyd ef, a fflangellwyd ef. Ni fuasai neb yn raeddwl y pryd hwn y buasai y bach- gen yn dod yn beriglor enwog St. Mary, Woolnoth, yn gyfaill y tyner- galon a'r duwiol fardd Cowper, yn gyd awdwr âg ef o Hymnau Olney, yn dad ysbrydol ac athraw yr esboniwr enwog, Thomas Scott, ac yn un o'r dynion hynotaf yn Lloegr. Bu yn bwriadu lladd y Capten, ond a<lgof am Mary Catlett a'i rhwystrodd. Llwyddodd o'r diwedd i fynd ar fwrdd llong i .Affrica, ond glaniwyd ef ar un o ynysoedd y Banana, "e y dioddefodd y trueni mwyaf, yng nghanol y Negroaid, ac nid oedd uemawr gwell na chaethwas ei hun. Gadawyd ef yno o dan ofal dynes ddu, yr hon a fu yn dra chreulon tuag ato. Bu am flwyddyn yn y cyflwr truenus hwnnw; ac eto, fel y mae yn syndod, defnyddiodd beth °'i amser i amaethu ei feddwl, yn astudio Euclid, yr unig lyfr oedd yn