Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GYMRAES. Çyf. I.] EBMLL, 1850. [Rhif. 4. fHrgoft'otu GWRAGEDD LAMECH. Wrth son am wragedd Lamech, yr ydym yn bwriadu dywedyd yr hyn a wyddom, a'r hyn na wyddom am danynt; hyny yw, yr hyn yr ydym yn sicr, a'r liyn yr ydym yn ansicr o hono. Yr ydym yn sicr fod yr hyn a ddywed Moses am danynt yn gywir, ond nid ydym yn ymrwymo am gywirdeb yr hyn a ddywed Athrawon Iuddewig, a thraddodiadau Dwyreiniol. Er hyny, anfynych y mae traddodiad yn hollol ddisail; ac er ei fod yn cynyddu yn gyffredin wrth dreiglo, eto os dilynir ef, fel dilyn nant i'w ffynonell, byddir yn debyg o gyt'arfod â'r ffynon wreiddiol. Felly nid yw o un niweid i Ferched Cymru, fod yn gyfarwydd a thraddodiadau y tadau, cyhyd ag y peidiont a'u harferyd i ddiryran gorchymynion Duw. Yr oedd Lamech yn un o ddisgynyddion Cain. Darfu i Moses roddi cofres fer o'r teulu, ond nid ydyw wedi nodi ond ychydig o'u helyntion mewn cym-. hariaeth i'r hyn a nododd am deulu Seth. Ni roddodd eu hoed na'u hamr gylchiadau nes dyfod Lamech, yr hwn y crybwyîlir enwau ei wragedd a'i blant, eu celfyddyd, yn nghyd a'r dernyn hynaf o farddoniaeth ar goF'ä chadw o fewn y byd ; a dichon mai er mwyn yr hysbysrwydd hwn, y cofreswyd enwan teulu Cain. Lamech oedd y chweched o Cain. Efe oedd y cyntafy mae genym Iianes am dano, a gymerodd iddo ei hun ddwy wraig, ac ni buasai yn un niweid i foesan a dedwyddwch cymdeithas, pe efe fuasai yr olaf. Barnai rhai o'r luddewon ei fod yn wr urddasol, gan y gall ei enw drwy gyfnewid lleoedd yr L a'r M, arwyddo brenin, sef Melech; ac raai ei urddas oedd yr achos iddo droseddu y gosodiad boreuol, "yn wrryw ac yn fenyw y creodd Duw hwynt." Ereill a dybiant mai ei awydd am weled cyflawniad yr addewid o had y wraig a roddasid i Efa, a'i tueddodd at hyn. Tybiai trwy gymeryd dwy wraig ei fod yn fwy tebyg o sicrhau cyflawniad yr addewid yn e' deulu ei hun. A dichon ei fod yn ystyried fod yr addewid i gael ei chyflawni yn nlrenlu Cain am mai efe oedd y cyntaf-anedig; a'i fod yn meddwl "a pharhai effeithiau y felldith ar Cain yn hŵy nâ'r seithfed genedlaetl». Bydded hyny fel y bo, efe a ddechreuodd yr arferiad niweidiol o aml-wreigiaeth, yi' hon sydd wedi achosi gofidiau, anghysur, ymrysonan, anwareidd-dra a gwarth difesur yn mysg yr hil ddynol. Y mae wedi bod feliy yn mhob oes ac o dan bob amgylchiad. Gellir dilyn ei anrheithiau yn nhenluoedd Abraham, Jacob, Elcanah, a Dafydd, yn anfoesoldeb cnawdol y gwledydd Dwyreinioí, ac yn maban-laddiadau ynysoedd Môr y De. Bu yn gancr i ddedwyddwch, yn rhwd i wareiddiad, ac yn wenwyn i grefydd. Gellir cymhwyso at hyn, ciriau Solomon am y wraig ddieithr a'r fenyw huteinig :—"Gwraig gwr arall a