Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GYMRAES. Cyf. I.] GORPHENIIAF, 1850. [Rhif. 7. &Drg0t£otU SARA, GWRAIG ABRAHAM. " Enw gwraig Abrara oedd Sarai, a Sarai oedd anmhlantadwy heb blentyn ìddi." Dyna ydyw crybwyllion cynhwysfawr Moses am un o'r merched mwyaf pwysig yn hanes y byd. Hi oedd naam etholedig genedl Israel, ac o honi hi yr hanodd Crist (yn ol y cnawd). Ei hiliogaeth hi ydynt eto yn bobl ìuosog, nodedig a neillduol. Er fod " gwaed y cyfiawn hwnw" wedi hir alw- am ddialedd arnynt, wedi troi eu gwlad dda odiaeth yn drigfa dreigiau, wedi malurio eu teml ysblenydd fel llwch lloriau dyrnu haf, ac wedi eu gwneud hwythau yn grwydriaid annedwydd yn mysg cenedloedd y ddaear, eto y mae plant Abraham a Sara, yn eu gwarth ac yn eu gogoniant, yn hoffi arddel enwau eu rhiaint. Ac yn wir, nid heb reswm y gwnant hyny. Cynddaredd ysol beirniaid yr oes hon ydyw dangos mai ehwedlau ydyw holl gyn-hanesion cenedlaethau, ac nad oes genym wir seiliau hanesyddoì i gredn bron ddim yn mhelîach na'n bod wedi ein geni ein hunain. Ond pe y medrai y chwedì- garwyr byn chwedleiddio ein holl hanesion, gallai yr Iuddew ymffrostio yn nhra-rhagoroldeb chwedìau ei genedl ef. Galiai ef sefyll yn daigryf yn mysg goreuon cenedioedd y ddaear, a dangos rhestr mwy diymod a mawreddog o'i achau nag un o honynt. Gall gyfeirio at hanesiaeth fwy cywir, at farddoniaeth mwy ysblenydd, ac at foesoldeb mwy pur nag un genedì araìì. Gall ymíFrostio yn Joseph, ily wodraethwr yr Aipht, yr hwn a gadwodd yn fyw bobl lawer. Gall cí'yn am gymhar i Moses, ei enwog ddeddf-roddwr; gall ofyn am bro- phwyd a bardd mor odidog a Dafydd ; am athronydd mor graff a Solomon ; ac am feirdd mor ardderchog ag awdwr llyfr Job ac Esaia. Ni bydd ond ofer gaiw o Iwch anghof Homer a Virgil, a Thydain a Thaìiesin, os na wneir hyny er mwyn mwyhau y cyferbyniad rhwng cysgod a sylwedd, a rhwng llyn a'r eigion. lîhaid i'r flaenoriaeth gael ei rhoddi i ddisgynydd Sara. Nid oes genym un hanesiaeth ddiymwad pwy oedd Sara, er y barna rhai o'r lien atlirawon luddewig tnai ei nith, ferch ei frawd ydoedd, ac mai hi yw yr íscah y sonir am dani yn Gen. xi, 29. Ond meddylir fod hyn yn anghyson ag esboniad Abraham yn Gerar, lle y dywedai mai merch ei dart ydoedd. Bydded hyn fel y bo, y mae yn amlwg eu bod yn berthynasau lled agos. Ymddengys fod Sara yn fenyw o lendid mawr. " Gian odiaeth oedd lii" yn ughyfrií Fharao a'i weision. Lled debyg hefyd mai yr un tegwch a swyn- odd írenin Gerar. Nid hi oedd yr unig un y bu ei glendid yn fagl iddi. Ar- weiniwyd hi i brofedigaethau llymion drwyddo, a hyny ar oí cyrhaedd hen «Jdyddiau, a siarad yn ol ein dyddiau ni. Gwaredwyd hi o'r profcdigaetb.au N"