Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIWR. Ehip 10. TACHWEDD, 1870. Cyf. 1. MUDIAD NEWYDD YR YSGOLION SAB- BOTHOL YN MORGANWG. Ddarllenwyr Ieuaing—Gwyddom fod y mwyafrif o lawer o honoch yn ddeiliaid yr Ysgol Sabbothol—yn ymdrechu drosti, yn cara ei lles, yn ei hystyried yn allu pwysig mewn cyssylltiad â chrefydd Mab Duw, ac yn gwerthfawrogi pob peth sydd â thuedd ynddo i luosogi ei deiliaid, ac i'w gwneyd yn allu mwy efFeithiol a lhvyddianus i gyrhaeddyd yr amcanion gogoneddus sydd ganddi mewn golwg. A gwyddoch chwithau fod y Gwyliwr wedi, ac yn bod, yn gwas- anaethu yr ysgol, cadw ei olwg ar ei llês a'i llwydd- iant, a hefyd ei chynorthwyo mewn llawer dull a modd. Ond y mae yn penderfynu, nid yn unig i barhau yr un peth yn y cyfeiriad hwn, ond i wneyd mwy o lawer nag erioed o'r blaen. Mae ei berchenogion a'i gefnogwyr yn dyfod i weled mwy o werth yr Ysgol Sabbothol nag erioed fel moddion yn Uaw Eglwys Dduw i gyflawni gwaith gogoneddus— yn gweled a theimlo y dylai fod, ac y gellid ei gwneyd yn llawer mwy lluosog, ac yn llawer mwy effeithiol nag y mae wedi bod; ac yn penderfynu gwneyd eu goreu tuag at gyrhaedd yr amcanion hyn. Teimlent yn neillduol fel hyn, yn, ac mewn canlyniad i'r cyrddau gwerthfawr a gynnaliwyd yn Aberdar, yn nghwrdd trimisol Morganwg, ar ddyddiau cyntaf y mis presennol. Cynnaliwyd yno dri o gyrddau dyddorol a phwysig mewn perthynas i'r Ysgol Sab- bothol yn Morganwg yn fwyaf neülduol. Yr oedd ugeiniau o'n heglwysi, neu ein hysgolion mewn cyssylltiad â'n heglwysi, yn cael eu cynnrychioli yno; îe, nid oedd ond ychydig iawn o eglwysi y sir nad oeddent yn cael eu cynnrychioli yn y cyrddau