Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIWR. Ehif 13. CHWEFROR, 1871. Cyf. 2. LLYFR TONAU NEWYDD AT WASANAETH ENWAD Y BEDYDDWYR. Fel y mae yn gwbl liysbys i bawb o ddarllenwyr Seren Cymru, a blaenorydd y Gwyliwr, sef y Gwyl- iedydd, fod llawer o siarad, a chryn dipyn o ysgrifenu, wedi bod bellach yn nghylch cael Llyfr Tonau newydd, er ys blynyddoedd. Mae rhyw hen ddywediad yn rhedeg yn ein plith fel Cymry yn debyg i hyn—"Yn mhob pen y mae piniwn, ond yn ambell i ben y mae rheswm." Ond er fod llawer pen wedi dyweyd ei feddwl yn nghylch y Llyfr Tonau newydd, etto, gallwn ddyweyd, gyda phriodoldeb, fod yn mhob pen rhyw hyn a hyn o reswm. Mae cymmaint à hyn o reswm gan yr holl ysgrifenwyr, sef, bod eisieu cael llyfr o'r fath—a bod eisieu ei gaelyn un da, ac eisieu ei gael yn fuan, hyny yw, mor fuan ag sydd yn bossibl. Mae yr holl ysgrífenwyr, o leiaf, y rhan fwyaf o honynt, wedi dysgwyl y buasai Mr. R. Lewis, Caerdydd, yn dyfod, neu wedi dechreu dyfod à'r llyfr hwn i'r golwg cyn hyn. Yr oedd dau neu dri o resymau ganddynt i ddysgwyl hyn—a pheidio dysgwyl yn ofer. Yr oedd Mr. Lewis wedi addaw dyfod á'r llyfr allan. Yr oedd wedi dechreu argym- meryd â'r gwaith. Yr oedd wedi hysbysu hyn i'r cyhoedd. Mae y cantorion wedi bod ar flaenau eu traed, er ys rhai blynyddoedd bellach, yn edrych am ei ymddangosiad; etto, er y cwbl, mae y llyfr mor bell, os nid yn mhellach, o wneyd ei bresenoldeb yn ein plith nag y bu erioed. Wrth bob argoel, y mae wedi retreato i fan annghysbell; ac o ran Mr. L., nid