Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y GWYLIWR. Hhif 14. MAWBTH, 1871. Cyf. 2. YB YSGOL SABBOTHOL YN EI PHEBTHYN- AS A'K TEULU. Oymwysiad y Papyr a ddarllenwyd gan y Parch. E. Ecans, Doiclais, yn y cyfarfod Trirnisol yr hwn a gynnaliwyd yn Ngludfaria, Äberdar, Tach. y 1 «V 2, 1870. Mam pob cymdeithas sydd yn bod yn y byd, ydyw y gymdeithas deuluaidd; ac y mae yr ysgol Sabbothol yn gymdeithas wasanaethgar iawn i'r un deuluaidd. Math o athrofa i deuluoedd tlodion ydyw, lle y rhoddir iddynt, yn rhieni ac yn blant, y ddysgeidiaeth oreu yn rhad ac am ddim. Mae bendithion y sef- ydliad fel hyn o fewn cyrhaedd holl deuluoedd tlodion ac anllythyrenog ein cymmydogaethau. Anwybodaeth ac anystyriaeth o werth yr'ysgol Sabbothol, ydyw un achos na byddai holl deuluoedd dospartli gweithiol ein hardaloedd, yn ueillduol, yn ddeiliaid o honi, ac yn aelodau ynddi, Pe byddai pob pen-teulu yn ein plith sydd yn proffesu crefydd, yn gwerthfawrogi y fantais a esyd yr ysgol Sabbothol yn ei feddiant, er ei gynnorthwyo i ddwyn ei blant i fyny yn grefyddol, trwy ofalu am eu hanfon yn gyson iddi, a myned yno ei hun gyda hwynt, ych- wanegaì hyn ỳn fuan ei ddedwyddwch teuluaidd yn fawr; 'byddai "ei wraig fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysaueidý, a'i blantfel planhigionolewwydd o amgylch ei fwrdd," a gallai yntau yn mhen ychydig o amser ddweyd, fel Josuah, "Myfì, ie, myfì a'm tylwyth, a wasanaethwn yr Arglwydd." Onid ydyw y Beibl yn dweyd, mai "fel hyn yn ddiau y