Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y G¥TLI¥K. Rhip. 24. IONAWR, 1872. Cyf 3. BUCHDEAETH Y PAECH. THOMAS EICH- AEDS, FELINWEN. rEFN y datguddiad dwyfol yw cadw enwau swydd- ogion eglwysig rhag cael eu claddu mewn ebar- gofiaeth dragywyddol, ond eu cadw mewn coffadwr- iaeth barchus. " Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fen- digedig." " Y cyfiawn a fydd byth mewn coffadwr- iaeth." Rhoddodd Paul gynghor i'r Hebreaid (13. 7) ar y mater hwn — " Meddyliwch (remember) am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw." Mae ein hathrawon Cristionogol, a ymadawsant â'r fuchedd hon, yn galw yn neillduol am y sylw hwn, o herwydd dau beth ; sef, yn gyntaf, anrhydeddusrwydd y swydd a lanwasant pan yma ar y ddaear. Grweision y Duw Goruchaf, cenadon Crist, blaenoriaid, llywod- raethwyr, a goruchwylwyr ar ras y bywyd, oeddynt. Teilynga y rhai hyn yr ystyriaethau mwyaf parchus oddwrth eu gorfucheddwyr. Hefyd, yn ail, er mwyn i'r byw gael lles ac adeilad- aeth wrth adfyfyrio ar eu llafur, athrawiaethau, cyng- horion dwys, ac esiamplau difrycheulyd a gwresog. Hyn a wnaeth yr Arglwydd lesu Grist cyn ei ymad- awiad â'r byd—" Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais wrthych ; a'r pethau hyn a ddywedais wrthych â mi yn aros gyda chwi." " Meddyliwch am eich blaenor- iaid." Grwrthddrych ein cofiant oedd fab i John ac Eliza- beth Richards. Yr oedd ganddo chwech o frodyr, a dwy chwaer. Efe oedd yr ieuengaf o'r plant. Pan aned ef, yr oedd ei rieni yn byw yn G-lantowy, ar dir