Cylchgronau Cymru
Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau
Tarian rhyddid a dymchwelydd gormes
Cylchgrawn crefyddol gwrth-Eglwysig radicalaidd misol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn cylchredeg ymhlith yr Annibynwyr. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau yn ymosod ar yr Eglwys Sefydledig, ac yn enwedig yn erbyn y degwm a thalwyd i'r eglwys. Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidog, llenor ac arweinydd gwleidyddol, William Rees (Gwilym Hiraethog, 1802-1883) a'r gweinidog ac ysgolfeistr, Hugh Pugh (1803-1868).Amlder: Misol
Iaith: Cymraeg
Lleoliad: S. l
Manylion Cyhoeddwr: s. t.]
Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1839
Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1839