...

Blodau Yr Oes

Cylchgrawn crefyddol anenwadol misol, Cymraeg ei iaith wedi ei darparu ar gyfer plant ysgolion Sul Cymreig yn yr America. Tan Ragfyr 1874 golygwyd y cylchgrawn ar y cyd gan William ap Madoc ac T. Solomon Griffiths ac fe'u holynwyd gan y gweinidog Methodist Calfinaidd, Morgan Albert Ellis (1832-1901) a'r gweinidog Annibynnol a'r eisteddfodwr, Thomas Edwards (Cynonfardd, 1848-1927) a oedd hefyd yn gyd-olygyddion. Teitlau cysylltiol: Yr Ysgol (1869-1870).

AMLDER: Misol
IAITH: Cymraeg
LLEOLIAD: Utica, N.Y
LLEOLIAD: T. J. Griffiths
RHIFYN CYNTAF SYDD AR GAEL: 1872
RHIFYN OLAF SYDD AR GAEL: 1875