...

Gwyliedydd (Bala)

Cylchgrawn misol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn cyhoeddi erthyglau llenyddol, hynafiaethol a hanesyddol ynghyd a newyddion cartref a tramor a barddoniaeth. Golygwyd y cylchgrawn ar y cyd gan Rowland Williams, Richard Richards a Robert Phillips tan 1826, gan Williams a Richards tan 1830, ac yna gan Williams, Richards a John Phillips (Tegidon, 1810-1877). Teitlau cysylltiol: Cyfaill y Cymro (1822).

AMLDER: Misol
IAITH: Cymraeg
LLEOLIAD: Bala
LLEOLIAD: Robert Saunderson
RHIFYN CYNTAF SYDD AR GAEL: 1822
RHIFYN OLAF SYDD AR GAEL: 1837