Eurgrawn Wesleyaidd
Cylchgrawn crefyddol misol, Cymraeg ei iaith, a oedd yn gwasanaethu enwad y Methodistiaid Wesleaidd. Prif gynnwys y cylchgrawn oedd erthyglau crefyddol ynghyd ac erthyglau ar lenyddiaeth, athroniaeth, adolygiadau, barddoniaeth, newyddion cenhadol a bywgraffiadau. Ymhlith golygyddion y cylchgrawn oedd John Bryan (1776-1856), Edward Jones (1782-1855) a Thomas Hughes (1854-1928). Teitlau cysylltiol: Y Drysorfa Wesleyaidd (1822); Yr Eurgrawn (1822, 1933).
Amlder: Misol
Iaith: Cymraeg
Lleoliad: Dolgellau
Manylion Cyhoeddwr: Richard Jones
Rhifyn Cyntaf Sydd Ar Gael: 1809
Rhifyn Olaf Sydd Ar Gael: 1910